Sgwrs Hinsawdd

Rhannu Sgwrs Hinsawdd ar Facebook Rhannu Sgwrs Hinsawdd Ar Twitter Rhannu Sgwrs Hinsawdd Ar LinkedIn E-bost Sgwrs Hinsawdd dolen

Gweld y tudalen hon yn Saesneg / View this page in English

Ym mis Hydref 2023, cynhaliodd Cyngor Ieuenctid Bro Morgannwg ddigwyddiad Sgwrs Hinsawdd, yng Nghanolfan y Celfyddydau Memo, Y Barri.

Wedi’i gynllunio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, daeth y digwyddiad â phobl ifanc o bob rhan o'r Fro ynghyd â llunwyr penderfyniadau i drafod eu profiadau o weithredu dros yr hinsawdd, eu huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol a sut y gellid cyflawni'r rhain.

Dewisodd aelodau’r Cyngor Ieuenctid ddau bwnc o ddiddordeb arbennig iddynt i fod yn ganolbwynt y trafodaethau yn y digwyddiad: gwastraff ac ailgylchu, a thrafnidiaeth.

Prosiect Sero yw ymateb Cyngor Bro Morgannwg i’r argyfwng newid yn yr hinsawdd. Mae Prosiect Sero yn dwyn ynghyd yr ystod eang o waith a chyfleoedd sydd ar gael i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd, i leihau allyriadau carbon y Cyngor i sero net erbyn 2030 ac i annog eraill i wneud newidiadau cadarnhaol.

Mae gan holl wasanaethau’r Cyngor rôl i'w chwarae wrth helpu'r sefydliad i gyrraedd ei darged yn 2030, ac mae'r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu â staff a phreswylwyr ar hyd y ffordd.

Mae Cyngor Ieuenctid Bro Morgannwg yn chwarae rhan bwysig wrth dynnu sylw at lais pobl ifanc yn y Fro ac wedi rhoi adborth gwerthfawr ar amrywiol brosiectau gan gynnwys Prosiect Sero.

Mae'r digwyddiad Trafod yr Hinsawdd yn un o'r ffyrdd y mae'r grŵp wedi bwydo i mewn i'r rhaglen waith Prosiect Sero.

Casglwyd yr holl adborth o'r digwyddiad ac mae'r Cyngor bellach wedi ymrwymo i ymgymryd â chamau gweithredu yn 2024 yn seiliedig ar y trafodaethau yn y digwyddiad. Gallwch ddarllen crynodeb o'r adborth a'r camau nesaf yng nghrynodeb o’r digwyddiad Trafod yr Hinsawdd.

Dyma sut roedd aelodau'r Cyngor Ieuenctid yn teimlo am y digwyddiad:

  • 6 Mis yn Ddiweddarach

    Rhannu 6 Mis yn Ddiweddarach ar Facebook Rhannu 6 Mis yn Ddiweddarach Ar Twitter Rhannu 6 Mis yn Ddiweddarach Ar LinkedIn E-bost 6 Mis yn Ddiweddarach dolen

    Yn seiliedig ar yr adborth a gasglwyd yn y digwyddiad, ymrwymodd y Cyngor i ymgymryd â nifer o gamau gweithredu yn 2024.

    Chwe mis yn ddiweddarach, mae’r Cyngor yn adrodd ar gynnydd yr ymrwymiadau hyn:

    Dogfen crynodeb cynnydd chwe mis

  • Cynnydd y camau nesaf

    Rhannu Cynnydd y camau nesaf ar Facebook Rhannu Cynnydd y camau nesaf Ar Twitter Rhannu Cynnydd y camau nesaf Ar LinkedIn E-bost Cynnydd y camau nesaf dolen

    Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ymgymryd â chamau gweithredu yn 2024 yn seiliedig ar syniadau ac adborth o’r digwyddiad. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y camau hyn yma.