Cynlluniau Sero Prosiect

Rhannu Cynlluniau Sero Prosiect ar Facebook Rhannu Cynlluniau Sero Prosiect Ar Twitter Rhannu Cynlluniau Sero Prosiect Ar LinkedIn E-bost Cynlluniau Sero Prosiect dolen

Gweld y tudalen hwn yn Saesneg / View this page in English

Ynglŷn â Phrosiect Sero

Ym mis Gorffennaf 2019, fe wnaethom ymuno â Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol eraill ledled y DU i ddatgan argyfwng hinsawdd mewn ymateb i adroddiad Newid yn yr Hinsawdd Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar effaith cynhesu byd-eang.

Prosiect Sero yw ymateb Cyngor Bro Morgannwg i’r Argyfwng Newid yn yr Hinsawdd.

Mae Prosiect Sero yn dwyn ynghyd yr ystod eang o waith a chyfleoedd sydd ar gael i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau allyriadau carbon y Cyngor i sero net erbyn 2030 ac annog eraill i wneud newidiadau cadarnhaol.

Rydym eisoes wedi gwneud newidiadau yn y sefydliad a dechrau prosiectau i leihau ein hallyriadau carbon.

Rhaid i ni gyd weithio gyda'n gilydd i addasu i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a'u lleihau. Gyda’n gilydd, mae gennym gyfle i newid a gwneud gwahaniaeth ac rydym yn dod â'r holl waith hwn ynghyd fel Prosiect Sero.

Ein Cynllun

Er ei bod yn amlwg bod gwaith gwych ar y gweill ledled y Cyngor i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, drwy Brosiect Sero, rydym wedi nodi deunaw o heriau fydd yn sbarduno newid cadarnhaol.

Mae'r rhain yn cynnwys heriau ar ynni, gwastraff, dŵr, defnydd tir, trafnidiaeth a mwy, fel sy'n cael ei amlinellu yng Nghynllun Her Newid Hinsawdd 2021-2030 a’r Crynodeb Gweithredol.

Arwain trwy esiampl

Ynni a Thrafnidiaeth

Gwastraff, Tir ac Adeiladau