Sgwrs Hinsawdd

Rhannu Sgwrs Hinsawdd ar Facebook Rhannu Sgwrs Hinsawdd Ar Twitter Rhannu Sgwrs Hinsawdd Ar LinkedIn E-bost Sgwrs Hinsawdd dolen

Gweld y tudalen hon yn Saesneg / View this page in English

Ym mis Hydref 2023, cynhaliodd Cyngor Ieuenctid Bro Morgannwg ddigwyddiad Sgwrs Hinsawdd, yng Nghanolfan y Celfyddydau Memo, Y Barri.

Wedi’i gynllunio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, daeth y digwyddiad â phobl ifanc o bob rhan o'r Fro ynghyd â llunwyr penderfyniadau i drafod eu profiadau o weithredu dros yr hinsawdd, eu huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol a sut y gellid cyflawni'r rhain.

Dewisodd aelodau’r Cyngor Ieuenctid ddau bwnc o ddiddordeb arbennig iddynt i fod yn ganolbwynt y trafodaethau yn y digwyddiad: gwastraff ac ailgylchu, a thrafnidiaeth.

Prosiect Sero yw ymateb Cyngor Bro Morgannwg i’r argyfwng newid yn yr hinsawdd. Mae Prosiect Sero yn dwyn ynghyd yr ystod eang o waith a chyfleoedd sydd ar gael i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd, i leihau allyriadau carbon y Cyngor i sero net erbyn 2030 ac i annog eraill i wneud newidiadau cadarnhaol.

Mae gan holl wasanaethau’r Cyngor rôl i'w chwarae wrth helpu'r sefydliad i gyrraedd ei darged yn 2030, ac mae'r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu â staff a phreswylwyr ar hyd y ffordd.

Mae Cyngor Ieuenctid Bro Morgannwg yn chwarae rhan bwysig wrth dynnu sylw at lais pobl ifanc yn y Fro ac wedi rhoi adborth gwerthfawr ar amrywiol brosiectau gan gynnwys Prosiect Sero.

Mae'r digwyddiad Trafod yr Hinsawdd yn un o'r ffyrdd y mae'r grŵp wedi bwydo i mewn i'r rhaglen waith Prosiect Sero.

Casglwyd yr holl adborth o'r digwyddiad ac mae'r Cyngor bellach wedi ymrwymo i ymgymryd â chamau gweithredu yn 2024 yn seiliedig ar y trafodaethau yn y digwyddiad. Gallwch ddarllen crynodeb o'r adborth a'r camau nesaf yng nghrynodeb o’r digwyddiad Trafod yr Hinsawdd.

Dyma sut roedd aelodau'r Cyngor Ieuenctid yn teimlo am y digwyddiad: