Prosiect Sero – Yr hyn rydym yn ei wneud

Rhannu Prosiect Sero – Yr hyn rydym yn ei wneud ar Facebook Rhannu Prosiect Sero – Yr hyn rydym yn ei wneud Ar Twitter Rhannu Prosiect Sero – Yr hyn rydym yn ei wneud Ar LinkedIn E-bost Prosiect Sero – Yr hyn rydym yn ei wneud dolen

Gweld y tudalen hwn yn Saesneg / View this page in English

Mae rhywfaint o'r gwaith mae'r Cyngor eisoes yn ei ddatblygu ac a fydd yn rhan o Brosiect Sero wedi'i nodi isod ac mae'n dangos ystod y gweithgarwch ymhlith ein gwasanaethau.

Cynllunio

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn darparu’r fframwaith i’r polisi cynllunio lleol ar gyfer sicrhau datblygu cynaliadwy. Mae canllawiau penodol wedi cael eu llunio hefyd sy'n ceisio gwelliannau ar Fioamrywiaeth, Coed a Datblygu, Cynlluniau Teithio ac Ynni Adnewyddadwy.

Mae targed CDLl 2022-23 i roi caniatâd cynllunio digonol i fodloni 10.6% (56.68 GWh) o'r galw rhagamcanol am drydan drwy ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2020 wedi’i gyrraedd.

Ers mis Gorffennaf 2018 rydym wedi sicrhau cymhareb ailblannu o 2:1 o ran cwympo coed â gorchmynion cadw neu goed mewn ardaloedd cadwraeth yn unol â Chanllawiau Cynllunio Atodol Coed, Coetiroedd, Gwrychoedd a Datblygiadau.

Ynni

Mae'r Cyngor yn prynu 100% o’i drydan o ffynonellau adnewyddadwy ac mae wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer nifer o ffermydd solar.

Rydym wedi ymgymryd â dros 100 o brosiectau arbed ynni yn adeiladau'r Cyngor gan gynnwys newid hen oleuadau aneffeithlon i oleuadau LED a chyflwyno gwell rheolaethau ynni.

Rydym wedi dechrau newid systemau gwresogi o nwy i drydan trwy osod pwmp Gwres o’r Ddaear yn Nhŷ Tregatwg yn y Barri a Phwmp Gwres Ffynhonnell Aer yn BSC2 (yr Ystafell Beiriannau) yn y Barri. Cafwyd gwelliannau sylweddol ar y safleoedd o ran defnydd o ynni ac mae cynlluniau ar y gweill i osod rhagor ohonynt.

Rydym wedi gosod paneli Solar ar 23 o adeiladau i roi capasiti cyfunol o bron 1 Megawatt. Mae maint pob system yn briodol i ateb y galw yn yr adeiladau y mae wedi'i gosod ynddynt.

Mae 90% o oleuadau stryd y Cyngor wedi'u trosi'n LED, yn erbyn targed o 95% ar gyfer 2022-23.

Gwastraff

Paratowyd 70% o'r gwastraff cartref a gasglwyd gan y cyngor ar gyfer ailddefnyddio a/neu ailgylchu yn ystod hanner cyntaf 2022-23, sy'n rhagori ar y targed statudol o 64% ar gyfer 2022-23 ac yn unol â chyrraedd y targed isaf o 70% erbyn 2025.

Mae pob tendr ar gyfer contractau'r Cyngor bellach yn nodi defnydd llai o blastigau untro ac mae pob tenantiaeth a chonsesiwn bwyd newydd a roddir yn gwahardd defnyddio plastigau untro.

Bwyd

Rydym wedi lleihau milltiroedd bwyd drwy newid ein cyflenwr llaeth i fferm laeth leol ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym wedi mynd yn syth at y cynhyrchydd llaeth sydd bellach yn cyflenwi ein holl ysgolion yn hytrach na defnyddio cwmni i gyflenwi ar ran ffermwyr.

Mae'r Big Fresh Catering Company sy'n eiddo i'r Cyngor yn gwneud ymdrech ymwybodol i leihau neu ddileu plastigau untro.. Mae nhw’n gweithio gyda chyflenwyr i ddod o hyd i gynhyrchion amgen ac, er enghraifft, wedi newid yr cynhwysydd hufen iâ pob un o'n hysgolion o fod yn diwb polystyren i fod yn diwb cardbord ailgylchadwy, sydd wedi helpu i leihau gwastraff yn ein ceginau.

Mae'r Big Fresh Catering Company yn gweithio gyda thîm ysgolion yr 21ain ganrif i leihau faint o garbon a gynhyrchir o'n hoffer cegin.

Trafnidiaeth

Rhaid i bob cais cynllunio perthnasol gyflwyno cynllun teithio i hyrwyddo dewisiadau teithio cynaliadwy ac atal defnydd diangen o geir, ac ers mis Mawrth 2019 rhaid i o leiaf 10% o fannau parcio ceir ar ddatblygiadau amhreswyl gynnwys seilwaith pwyntiau gwefru cerbydau trydan.

Mae Cynlluniau Teithio Llesol wedi'u cyflwyno i wella cyfleoedd ar gyfer cerdded a beicio mewn nifer o ardaloedd gan gynnwys y Bont-faen, Llanilltud Fawr, Penarth Heights, Lavernock Road/Cosmeston, Sully Road/Ysgol San Joseff a South Road/Hayes Road/Sully Moors Road.

Mae rhaglen gosod pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan ar y gweill gyda 36 o bwyntiau wedi'u gosod mewn mannau cyhoeddus ledled y Fro ac 80 pwynt ar safleoedd y cyngor erbyn mis Ionawr 2023.

Rydym yn gweithio gyda'n hysgolion i annog beicio ac mae 6 beic balans wedi eu darparu i bob ysgol gynradd yn y Fro. Mae llochesi beicio wedi cael eu gosod mewn 4 ysgol ac rydym yn gweithio gydag ysgolion ar eu Cynlluniau Teithio Llesol.

Gosodwyd gorsafoedd trwsio beiciau mewn 5 safle ledled y Fro a gwnaed gwelliannau i gerddwyr i lwybrau ar St Brides Way, Y Barri, Murch Road, Dinas Powys a Woodland Road, Y Barri.

Tai Cyngor

Mae gwaith a wnaed i stoc dai'r Cyngor drwy SATC wedi helpu i arbed ynni a lleihau tlodi tanwydd. Rydym wedi codi'r sgôr SAP (sgôr perfformiad ynni) cyfartalog o waelod y 40au i 73 ac mae’r gwelliannau’n cynnwys ffenestri a drysau modern, toeau newydd, insiwleiddio a systemau gwresogi modern.

Rydym yn treialu’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn ein tai cyngor gan ddefnyddio cyllid grant Llywodraeth Cymru i ymestyn gwybodaeth a gwella gallu contractwyr lleol o ran gwasanaethau gwresogi gwyrdd, i ddatgarboneiddio'r farchnad gwresogi domestig a darparu sgôr targed A TPY i gartrefi cyngor cynaliadwy.

Ysgolion

Mae'r Cyngor wedi dylunio model adeiladu ysgolion sero net, sy'n cael ei gyflwyno fel rhan o'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Ysgol Gynradd Trwyn y De, a agorwyd ym mis Mawrth 2022, oedd yr ysgol gyntaf yn yr Awdurdod ac yng Nghymru i gyflawni gwaith carbon sero-net wrth weithredu.

Mae carbon hefyd wedi'i leihau'n sylweddol yn ystod y broses adeiladu gyda 99% o wastraff adeiladu yn cael ei ailgylchu neu ynni'n cael ei adennill i leihau allyriadau wrth echdynnu deunydd crai ac i osgoi defnyddio safleoedd tirlenwi.

Dyfarnwyd cyllid i'r Cyngor gan Lywodraeth Cymru i gefnogi mesurau datgarboneiddio fel rhan o'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.

Rydym wedi gosod paneli ffotofoltäig ar nifer o safleoedd ysgolion i gynyddu'r defnydd o ynni adnewyddadwy ac rydym hefyd wedi defnyddio cyllid Salix i weithredu ystod o fesurau arbed ynni yn ysgolion yn y Fro.

Rydym hefyd wedi gosod gorsafoedd gwefru cerbydau trydan ar safleoedd ysgolion penodol.

Bydd dros 1,200 o goed Coed Cadw yn cael eu plannu fel rhan o'n Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu fydd yn helpu i greu ardaloedd bywyd gwyllt a hefyd yn cyfrannu at wella ansawdd aer o amgylch ysgolion.

Ein Tir

Dim ond compost di-fawn mae ein holl barciau gwledig a'r Arfordir Treftadaeth yn ei ddefnyddio ar bob prosiect garddio. Mae ein parciau gwledig wedi creu ardaloedd compostio mewnol ac yn cynhyrchu eu compost eu hunain i'w ddefnyddio ar y safle. Rydym hefyd wedi lleihau ein defnydd o blaleiddiad a chwynladdwr ar ein tir./span>

Mae dros 200,000m2 o dir parciau, mannau agored a phriffyrdd wedi eu hau gyda hadau blodau gwyllt neu eu cynnal fel ardal naturiol. Defnyddiwyd cyfraniadau Adran 106 hefyd i wella mannau agored cyhoeddus drwy blannu blodau gwyllt, bylbiau a choed gan gynnwys cynllun cynhwysfawr o blannu coed ym Mhenarth.

Mae'r Cyngor hefyd wedi gwneud nifer o newidiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf i leihau’r effaith y mae’r sefydliad yn ei chael ar yr amgylchedd ac i ddangos arweiniad cryf i staff, partneriaid a'r gymuned leol.

Rydym wedi rhoi prosiect gofod ar waith i resymoli faint o ofod swyddfa sydd ei angen arnom ac rydym wedi defnyddio technoleg i gefnogi gweithio mwy ystwyth a hyblyg, sydd o fudd i gwsmeriaid, i’n gweithwyr a'r amgylchedd.

Rydym wedi cyfleu negeseuon clir i staff am leihau gwastraff, ailddefnyddio ac ailgylchu yn y gweithle ac wedi gwneud gwelliannau sylweddol i'n hadeiladau er mwyn arbed ynni. Rydym hefyd wedi llofnodi Siarter Teithio Llesol Staff BGC y Fro.

Mae negeseuon rheolaidd am newidiadau sy'n cael eu gwneud a chydnabod cyfraniad gwahanol dimau ac aelodau unigol o staff wedi helpu i greu diwylliant lle mae staff yn teimlo bod eu lles yn cael ei werthfawrogi ac mae dealltwriaeth o'r cysylltiadau rhwng ein lles a'n hamgylchedd wedi cynyddu.

SAnogir staff i ddod o hyd i syniadau newydd i helpu i drawsnewid sut mae'r Cyngor yn gweithio ac mae eu hymroddiad, eu harloesedd a'u harbenigedd yn rhan bwysig o Brosiect Sero.