Neidio i'r cynnwys
Bro Oed-Gyfeillgar

Beth ydych chi'n ei wneud i herio ystrydebau heneiddio?

Fel rhan o'n hymgyrch Heneiddio'n Dda, rydym yn llunio fideo i arddangos y ffyrdd y mae trigolion y Fro yn herio ystrydebau heneiddio. Hoffem wybod mwy am yr hyn rydych chi (neu rywun rydych chi'n ei adnabod) yn ei wneud i "heneiddio'n dda". P'un a yw'n dysgu sgil newydd, mynd i'r gampfa, neu gwrdd â'ch ffrindiau am goffi - mae yna lawer o ffyrdd o herio ystrydebau bob un dydd!

Rydym yn chwilio am drigolion i ymddangos yn ein fideo. Cyflwynwch fideo ohonoch eich hun neu berson hŷn rydych chi'n ei adnabod sy'n dangos sut rydych chi'n herio ystrydebau oedran. Bydd y fideos gorau hefyd yn cael cyfle i ennill pecyn gwobrau Y Fro Oed-Gyfeillgar, felly peidiwch â theimlo ofn bod yn greadigol. 

Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu i ddechrau eich fideo:

  1. Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i bobl eraill i'w helpu i heneiddio'n dda? 
  2. Beth yw'r peth gorau am dyfu'n hŷn? 
  3. Beth sydd bwysicaf i chi wrth fynd yn hŷn? 



Ymwadiad: Drwy gyflwyno fideo, rydych chi’n cytuno y gallai eich fideo ymddangos mewn fideo ymgyrchu a fydd yn cael ei rannu â’r cyhoedd.
Noder: Dim ond nifer fach o wobrau y Fro Oed-Gyfeillgar sydd ar gael.