Deisebau

Rhannu Deisebau ar Facebook Rhannu Deisebau Ar Twitter Rhannu Deisebau Ar LinkedIn E-bost Deisebau dolen

Gweld y tudalen hon yn Saesneg / View this page in English

Eich canllaw i ddeisebau yn y Fro

Mae cychwyn neu lofnodi deiseb yn un ffordd i unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau'r Cyngor.

Mae deisebau yn helpu i godi materion sy'n bwysig i bobl leol ac yn rhoi cyfle i'r Cyngor ystyried newid.

Er mwyn gwneud y broses ddeisebu yn haws, mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth e-ddeiseb ar-lein.

Derbynnir deisebau papur hefyd. Os byddwch yn dewis yr opsiwn hwn, dilynwch y cyfarwyddiadau ar waelod y dudalen.

Dylai deisebau fod yn berthnasol i faterion y mae'r Cyngor yn gyfrifol amdanynt, a dylent fod yn barchus ac yn cael eu cyflwyno'n ddidwyll.

Dechrau E-Ddeiseb

Creu e-ddeiseb ar fater sy'n bwysig i chi a dechrau casglu llofnodion.
Dewch o hyd i e-ddeiseb bresennol a'i chefnogi gyda'ch llofnod..

Ynghylch y broses e-Ddeiseb

Gall unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yn y Fro greu neu lofnodi e-ddeiseb, gan gynnwys pobl dan 18 oed.

Pan fydd e-ddeiseb yn cael ei chyflwyno, bydd Swyddog Monitro neu Ddirprwy Swyddog Monitro'r Cyngor yn gwirio ei bod yn bodloni'r meini prawf. Os ydyw, bydd y Cyngor yn ei gyhoeddi ar-lein yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yna gall pobl ddangos eu cefnogaeth trwy ychwanegu eu llofnod.

Unwaith y bydd e-ddeiseb wedi cau, caiff ei hystyried gan y Cyngor, y Cabinet, neu Bwyllgor Craffu yn dibynnu ar y pwnc. Efallai y bydd y prif ddeisebydd yn cael ei wahodd i gyflwyno'r ddeiseb, ac mae'r Cyngor yn darparu ymateb ffurfiol, sydd hefyd yn cael ei gyhoeddi ar-lein.

Dim ond e-ddeisebau a grëwyd drwy'r platfform hwn y mae'r Cyngor yn eu hystyried.

Gallwch weld yr holl e-ddeisebau caeedig, yn ogystal â'r rhai na chawsant eu derbyn oherwydd nad oeddent yn bodloni'r meini prawf:

Cyflwyno deiseb bapur

Fel arall, os byddwch yn dewis peidio â defnyddio'r broses e-ddeiseb ar-lein, gallwch anfon deiseb wedi'i chwblhau yn electronig drwy e-bost: Democratic@valeofglamorgan.gov.uk, drwy'r post at: Gwasanaethau Democrataidd a Chraffu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, BARRY, CF63 4RU, neu cysylltwch â'r Gwasanaethau Democrataidd a Chraffu ar 01446 709249 i wneud trefniadau i gyflwyno deiseb.

Dylai pob deiseb fod yn berthnasol i faterion y mae'r Cyngor yn gyfrifol amdanynt, a dylent fod yn barchus ac yn cael eu cyflwyno'n ddidwyll.