Dechrau E-Ddeiseb
Gweld y tudalen hon yn Saesneg / View this page in English
Mae deisebau yn gadael i chi godi materion sy'n bwysig i chi, gan roi cyfle i Gynghorwyr ystyried yr angen am newid. Er mwyn gwneud hyn yn haws, mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth e-ddeiseb ar-lein.
Gall unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yn y Fro greu neu lofnodi deiseb, gan gynnwys pobl dan 18 oed.
Cyn dechrau eich e-ddeiseb
Cyn dechrau deiseb, mae'n syniad da cysylltu â'ch Cynghorydd lleol neu ein Tîm Gwasanaethau Democrataidd i weld a yw'r Cyngor eisoes yn mynd i'r afael â'ch pryder ac i sicrhau mai dyma'r corff cywir i dderbyn eich deiseb.
Gallwch hefyd wirio meini prawf ein deiseb.
Dechrau eich e-ddeiseb
Dylai eich e-ddeiseb gynnwys:
- Teitl clir
- Datganiad o'r camau rydych chi am i'r Cyngor eu cymryd
- Unrhyw wybodaeth ategol, gan gynnwys dolenni i adnoddau perthnasol
- Dyddiad cau - dylai hyn helpu i gael yr effaith fwyaf posibl, er enghraifft, cyn dadl neu benderfyniad ar y mater. Gellir cynnal e-ddeisebau am hyd at 120 diwrnod (tua phedwar mis), er bod y rhan fwyaf yn rhedeg am gyfnod byrrach.
Dylai deisebau fod yn barchus, yn berthnasol, ac yn cael eu cyflwyno'n ddidwyll. Gall y Cyngor wrthod deisebau sy'n dramgwyddus, difenwol, dyblyg, neu y tu allan i'w bwerau.
Ar ôl i chi gyflwyno'ch e-ddeiseb, bydd ein tîm Gwasanaethau Democrataidd yn ei hadolygu i sicrhau ei bod yn bodloni'r meini prawf. Gall hyn gymryd hyd at saith diwrnod gwaith.
Pan fyddwch yn dechrau deiseb, chi fydd y deisebydd 'arweiniol' a bydd gofyn i chi roi gwybodaeth bersonol sylfaenol i'r Cyngor er mwyn i ni allu cysylltu â chi.
Os na dderbynnir deiseb, rhoddir gwybod i'r prif ddeisebydd, a chaiff y rheswm ei gyhoeddi ar y dudalen e-Ddeisebau a wrthodwyd.
Er mwyn sicrhau bod pob e-ddeiseb yn ddilys, gofynnir i chi fewngofnodi neu gofrestru cyn cyflwyno eich e-ddeiseb. Yn syml, cofrestrwch eich manylion a chadarnhewch eich cyfrif trwy'r e-bost dilysu y byddwch chi'n ei dderbyn.
Cyhoeddi a rhannu eich e-ddeiseb ar gyfer llofnodion
Unwaith y bydd eich e-ddeiseb wedi'i chymeradwyo ac yn bodloni meini prawf y Cyngor, bydd yn cael ei chyhoeddi ar-lein yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Bydd eich deiseb yn ymddangos yn ein rhestr o e-ddeisebau cyfredol fel y gall pobl rannu eu cefnogaeth drwy ychwanegu eu llofnod. Gallwch hefyd rannu cyswllt uniongyrchol gyda ffrindiau, teulu, neu eich cymuned i annog mwy o gefnogaeth.
Fel Deisebydd Arweiniol, dylech roi gwybod i'r Gwasanaethau Democrataidd os oes copi caled o'r ddeiseb i gael ei gyflwyno ar y cyd â'r e-ddeiseb.
Cau ac ystyried e-Ddeiseb
Pan fydd e-ddeiseb yn cyrraedd ei dyddiad cau, ni fydd yn derbyn llofnodion mwyach. Bydd y rhestr o lofnodwyr yn cael ei chasglu gan y Gwasanaethau Democrataidd, a byddwn yn cysylltu â'r prif ddeisebydd.
Er bod deisebau yn gyffredinol angen o leiaf 100 o lofnodion, gall y Cyngor dderbyn llai os oes cefnogaeth leol glir.
Yn dibynnu ar y pwnc a chyngor gan Swyddog Monitro'r Cyngor (neu'r Dirprwy Swyddog Monitro), gall y Cyngor Llawn, y Cabinet neu Bwyllgor Craffu ystyried deiseb.
Bydd y prif ddeisebydd yn cael gwybod ymlaen llaw pa gorff fydd yn ystyried y ddeiseb a phryd.
Os caiff ei ystyried gan Bwyllgor Craffu, gall y deisebydd arweiniol fynychu a chyflwyno crynodeb byr tair munud o'r ddeiseb a'i llofnodwyr neu ofyn i Gynghorydd lleol ei chyflwyno ar eu rhan. Os na fydd y naill na'r llall yn bresennol, bydd y Cadeirydd yn darllen pwrpas y ddeiseb a nifer y llofnodwyr.
Rhaid i ddeisebau a gyflwynir yn uniongyrchol i'r Cyngor neu'r Cabinet gael eu cyflwyno gan Gynghorydd neu'r Aelod Cabinet perthnasol.
Ar ôl ystyried, bydd ymateb ffurfiol yn cael ei anfon at y deisebydd arweiniol a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor o fewn 15 diwrnod gwaith.
