Cyllideb 2025/26 Cyngor Bro Morgannwg

Rhannu Cyllideb 2025/26 Cyngor Bro Morgannwg ar Facebook Rhannu Cyllideb 2025/26 Cyngor Bro Morgannwg Ar Twitter Rhannu Cyllideb 2025/26 Cyngor Bro Morgannwg Ar LinkedIn E-bost Cyllideb 2025/26 Cyngor Bro Morgannwg dolen

View this page in English / Gweld y dudalen hon yn Saesneg

Mae Cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi cymeradwyo ei gynigion cyllideb ddrafft ar gyfer 2025/26 ar gyfer ymgynghori. Rhaid i'r Cyngor osod gyllideb gytbwys ar gyfer pob blwyddyn.

Bydd y Cyngor yn derbyn ychydig llai na £223 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26, ffigur sy'n cynrychioli tua dwy ran o dair o'i incwm. Mae'r gweddill yn cynnwys Treth y Cyngor. Mae'r Cyngor hefyd yn derbyn incwm o godi tâl am wasanaethau.

Mae'r arian a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynnydd o 3.3% o'r llynedd.

Fodd bynnag, mae'r galw am wasanaethau cyngor critigol penodol yn parhau i dyfu'n gyflym, fel y mae'r gost o ddarparu llawer o wasanaethau eraill.

Mae Cyngor Bro Morgannwg, yn gyffredin â chynghorau ledled Cymru a Lloegr, yn profi pwysau ariannol sylweddol ar draws gofal cymdeithasol plant ac oedolion, mewn cyllid ysgolion, yn enwedig darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), ac wrth ddarparu cludiant i'r ysgol.

Mae hyn i gyd yn golygu bod y Cyngor yn wynebu diffyg sylweddol yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. O ganlyniad mae angen newidiadau i ddod â'i wariant yn unol â'i incwm.

Mae'r newidiadau hyn wedi'u nodi yn y cynigion cyllideb ddrafft sy'n cynnig £9 miliwn mewn arbedion o gyllidebau'r Cyngor, mwy o ffioedd am wasanaethau penodol, a chynnydd yn y Dreth Gyngor o 6.9%.

Sut mae'r Cyngor yn cynnig mynd i'r afael â'i ddiffyg yn y gyllideb?

Gallai taliadau am rai gwasanaethau godi, gan gynnwys casgliadau gwastraff gwyrdd.

Byddai mwy o grwpiau chwaraeon a chymunedol yn cael cyfle i ennill mwy o annibyniaeth drwy gymryd drosodd y gwaith o reoli eu cyfleusterau, trefniant sydd eisoes wedi profi'n hynod boblogaidd ymhlith clybiau bowlenni a sefydliadau eraill.

Mae adolygiad o sut mae rhai gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cael eu darparu yn fordd arall y gallai'r Cyngor arbed arian. Gellid defnyddio nifer o adeiladau sydd ddim mewn defnydd hefyd yn ogystal â throsglwyddiadau i grwpiau cymunedol.

Mae cynigion hefyd i gynhyrchu incwm ychwanegol. Er enghraifft, yn gysylltiedig â Rhaglen Adfywio'r Cyngor a'r cais Lefelu i Fyny llwyddiannus a fydd yn creu marina yn y Barri ac mae cynllun i rentu gofod swyddfa yn Swyddfa'r Doc gerllaw.

Esbonio cyllideb y Cyngor

Mae treth y cyngor yn ffurfio traean o gyllideb flynyddol y Cyngor, ac mae'r gweddill yn dod o grant llywodraeth Cymru sy'n cynnwys cyfran o'r ardrethi busnes a gesglir ledled Cymru. Mae ffigyrau'r gyllideb o £331 miliwn yn wariant net ac mae'n cynnwys incwm a gynhyrchir drwy daliadau am rai gwasanaethau.

Mae'r gyllideb wedi'i rhannu ar draws llawer o wasanaethau gyda gofal cymdeithasol ac addysg yn cael y dyraniad mwyaf.

  • Cymerwch Arolwg
    Rhannu Dweud eich dweud yn yr ymgynghoriad ar Facebook Rhannu Dweud eich dweud yn yr ymgynghoriad Ar Twitter Rhannu Dweud eich dweud yn yr ymgynghoriad Ar LinkedIn E-bost Dweud eich dweud yn yr ymgynghoriad dolen
  • Dysgwch fwy am incwm a gwariant y Cyngor, a rhowch eich gwybodaeth ar brawf drwy gwblhau ein cwis cyllideb.

    Cymerwch y cwis
    Rhannu Cwis cyllideb ar Facebook Rhannu Cwis cyllideb Ar Twitter Rhannu Cwis cyllideb Ar LinkedIn E-bost Cwis cyllideb dolen