Ysgrifennwyd ein cynigion cyllideb ddrafft gyda'r nod o ddiogelu ein preswylwyr mwyaf bregus, wrth barhau i ddarparu gwasanaethau allweddol. Mae'r Cyngor wedi cymryd nifer o gamau i wneud arbedion ond yn syml, ni allwn dalu am yr holl wasanaethau y mae angen i ni eu darparu heb y cynigion canlynol.
Dyma rai enghreifftiau o sut rydym yn cynnig gwneud yr arbedion gofynnol yn 2025-26.
Parhau i adolygu'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu er mwyn eu gwneud mor effeithlon â phosibl:
- Lleihau nifer yr adeiladau rydym yn eu gweithredu a'u meddiannu er mwyn lleihau costau rhedeg neu arbed ar rent.
- Adolygu strwythurau cefn swyddfa a lleihau staff er mwyn gwneud arbedion effeithlonrwydd lle bo hynny'n bosibl.
- Trosglwyddo perchnogaeth rhai cyfleusterau cymunedol, megis cyfleusterau chwaraeon a chanolfannau cymunedol, i grwpiau cymunedol.
Blaenoriaethu gwasanaethau sy'n diogelu ein preswylwyr mwyaf bregus
- Gwariwyd 70% o gyllideb y Cyngor y llynedd ar ofal cymdeithasol ac addysg
- Mae'r galw am wasanaethau sy'n diogelu ein preswylwyr mwyaf bregus a'r gost yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan adael fawr o gyllideb refeniw ar gyfer darparu'r holl wasanaethau eraill y mae'r Cyngor yn gyfrifol amdanynt.
Cynyddu'r dreth gyngor 6.9% (byddai hyn yn cadw Bro Morgannwg yn is na chyfartaledd Cymru)
- Mae pob cynnydd o 1% yn y Dreth Gyngor yn rhoi gwerth £1m ychwanegol o gyllid i'r Cyngor ar gyfer gwasanaethau. Os cytunir ar 6.9% gan y Cyngor llawn ym mis Mawrth yna bydd angen i'r Cyngor ddod o hyd i werth £9.026m ychwanegol o arbedion drwy ein strategaeth gyllidebol.
Cynyddu taliadau am wasanaethau yn unol â chwyddiant
- Bydd ffioedd dewisol a thaliadau am wasanaethau yn cael eu cynyddu yn unol â'r gost gynyddol i'r Cyngor o ddarparu hyn, yn y rhan fwyaf o achosion bydd hyn tua 3%.
- Bydd hyn yn lleihau'r pwysau ar gyllideb y Cyngor ac yn helpu i gyrraedd y targed arbedion gofynnol o £9m
Cyflwyno taliadau ar gyfer rhai gwasanaethau
- Bydd taliadau am rai gwasanaethau anstatudol fel casgliadau gwastraff gardd yn cael eu cynyddu er mwyn dod yn agosach i dalu am gost lawn y cyflenwi