Gwelliannau i safleoedd hamdden Colcot a Buttrills

Rhannu Gwelliannau i safleoedd hamdden Colcot a Buttrills ar Facebook Rhannu Gwelliannau i safleoedd hamdden Colcot a Buttrills Ar Twitter Rhannu Gwelliannau i safleoedd hamdden Colcot a Buttrills Ar LinkedIn E-bost Gwelliannau i safleoedd hamdden Colcot a Buttrills dolen

Gweld y tudalen hwn yn Saesneg / View this page in English

Rydym am archwilio dyfodol newydd ar gyfer Canolfan Chwaraeon Colcot a Chaeau Chwarae Buttrills yn y Barri.

Rydym am weithio gyda thrigolion lleol, clybiau chwaraeon a phartneriaid i ddeall beth sydd bwysicaf, ac a oes cefnogaeth i lunio cynllun newydd gyda'n gilydd.

Mae hyn yn gynnar iawn. Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud. Nid yw syniadau blaenorol ar gyfer y safle, gan gynnwys cynigion sy'n ymwneud ag adeiladu tai, yn cael eu datblygu.

Dangosodd ymgynghoriad cynharach farn leol gref ynghylch sut y dylid defnyddio'r safle.

Rydym wedi gwrando ar yr adborth hwnnw ac yn dechrau eto gyda sgwrs fwy agored am bosibiliadau yn y dyfodol.

Os oes cefnogaeth gan y gymuned i wneud hynny, efallai y byddwn wedyn yn gwneud cais am gyllid i gefnogi datblygiad y cyfleusterau hyn. Byddwn yn ymgynghori ar unrhyw gynlluniau arfaethedig yn nes ymlaen. Dyma'r cam cyntaf wrth ddatblygu cynllun newydd ar gyfer y safleoedd hyn.

Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar Gynllun Lle'r Barri a fabwysiadwyd - cynllun ar y cyd a ddatblygwyd gan Gyngor Bro Morgannwg a Chyngor Tref y Barri, wedi'i lunio gan amrywiaeth o randdeiliaid lleol a lleisiau cymunedol.

Un o'r themâu allweddol a ddeilliodd o'r ymgysylltu hwnnw oedd yr angen i archwilio cyfleoedd ar gyfer cyfleusterau cymdogaeth a chryfhau chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar draws y Barri drwy ddarpariaeth o ansawdd uchel.

Beth ydyn ni'n ceisio'i wneud?

Ar hyn o bryd, nid ydym yn cynnig ateb penodol.

Ein nod yw deall:

  • sut mae'r safle'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd

  • beth sy'n gweithio'n dda a beth sydd ddim

  • pa rwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau

  • yr hyn yr hoffai pobl leol, defnyddwyr presennol a rhai sydd i ddod o'r cyfleusterau yma eu gweld

Byddwn yn defnyddio'r adborth hwn i archwilio sut y gallai cynllun realistig a gefnogir gan y gymuned edrych.

Byddai angen i unrhyw gynllun yn y dyfodol:

  • adlewyrchu blaenoriaethau lleol

  • gwella mynediad a chynhwysiant

  • gwneud y defnydd gorau o'r cyllid sydd ar gael

  • bod yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy dros amser

Dim ond os oes cefnogaeth gymunedol glir a ffordd gyfiawnadwy o wneud hynny y byddwn yn symud ymlaen.

Pam rydyn ni'n edrych ar y cyfleusterau hyn?

Mae mwy o bobl nag erioed yn cymryd rhan mewn chwaraeon ym Mro Morgannwg, yn enwedig pêl-droed. Mae cyfranogiad yn tyfu'n gyflym, yn enwedig ymhlith menywod a merched.

Mae Canolfan Chwaraeon Colcot a Chaeau Chwarae Buttrills eisoes yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi hyn.

Rydym yn falch iawn o'r cyfleusterau cymunedol sydd ar gael ledled Bro Morgannwg a'r cynnydd mewn cyfranogiad mewn chwaraeon. Fodd bynnag, mae'r adeilad presennol yng Ngholcot mewn cyflwr gwael iawn ac nid yw'n bodloni safonau modern nac anghenion cymunedol mwyach.

Mae hefyd yn gynyddol ddrud cadw'r adeilad ar agor yn ei gyflwr presennol. Nid yw hyn yn gynaliadwy yn y tymor hwy, yn enwedig pan nad yw'r cyfleusterau'n bodloni disgwyliadau neu'n cefnogi'r galw cynyddol.

Mae rhannau o'r safle hefyd, fel yr hen gae artiffisial, heb eu defnyddio ers sawl blwyddyn.

Gyda'i gilydd, mae hyn yn creu angen clir i adolygu sut mae'r safle'n cael ei ddefnyddio a sut y gallai wasanaethu'r gymuned yn well yn y dyfodol.

Rydym eisiau clywed gennych

Gallwch gymryd rhan drwy

  • Mynychu digwyddiad ymgysylltu cymunedol yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot ar o2 neu 07 Gorffennaf, 5 - 7yh.

  • Rhannu eich adborth a'ch syniadau gyda ni fel y gallwn weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i ateb- anfonwch e-bost at consultation@valeofglamorgan.gov.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau eraill.