Gwelliannau i safleoedd hamdden Colcot a Buttrills

Rhannu Gwelliannau i safleoedd hamdden Colcot a Buttrills ar Facebook Rhannu Gwelliannau i safleoedd hamdden Colcot a Buttrills Ar Twitter Rhannu Gwelliannau i safleoedd hamdden Colcot a Buttrills Ar LinkedIn E-bost Gwelliannau i safleoedd hamdden Colcot a Buttrills dolen

Gweld y tudalen hwn yn Saesneg / View this page in English

Rydym yn bwriadu gwella cyfleusterau chwaraeon yn safleoedd hamdden Colcot a Buttrills yn y Barri.

Rydym yn cynllunio’r gwelliannau hyn oherwydd bod angen trawsnewid brys ar y cyfleusterau newid presennol ar y safleoedd gan eu bod wedi mynd i gyflwr gwael ac yn methu ag ateb gofynion y defnyddwyr.

Ynglŷn â’r Cynigion

Bydd y gwelliannau'n cael eu hariannu drwy gyllid grant yn ogystal â thrwy adeiladu tai ar dir sy'n cael ei feddiannu gan y cyfleusterau hen ffasiwn yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot ar hyn o bryd.

Mae'r cynigion yn cynnwys:

  • Adeiladu pafiliwn chwaraeon newydd, ger canolfan gymunedol Buttrills bresennol, gyda neuadd focsio bwrpasol, cyfleusterau newid a lle i'r gymuned
  • Gosod trac beicio awyr agored ac ardal chwaraeon aml-ddefnydd yn Colcot
  • Adeiladu cyfleusterau cymunedol newydd, gan gynnwys ardal chwarae, i gefnogi tai newydd yn Colcot
  • Cadw'r neuadd chwaraeon fwy, caeau pêl-droed 3G a mannau agored gwyrdd yn Colcot
  • Creu mannau parcio newydd yn y ddau safle

Sut i ddweud eich dweud

Gallwch gael gwybod mwy am y prosiect mewn sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot rhwng 4pm a 7pm ddydd Iau, 18 Ebrill.

Gallwch hefyd:

  • Gofynnwch gwestiwn isod
  • Cwblhau'r ffurflen adborth isod cyn 31 Mai
  • Rhannwch eich barn fel rhan o'r broses gynllunio pan fydd y cynigion wedi'u cyflwyno

Dylid dychwelyd copïau caled o'r ffurflen sylwadau at:

RHADBOST RTGU-JGBH-YYJZ

Ymgynghori, Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid

Cyngor Bro Morgannwg

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holton

Y Barri

CF63 4RU

Gofynnwch gwestiwn i ni

Os oes gennych gwestiwn nad yw'n cael sylw yn ein Cwestiynau Cyffredin, cyflwynwch ef yma.

delwedd torth
Onid ydych wedi derbyn eich e-bost cadarnhau?
Ymddangos fel eich bod eisoes wedi cofrestru, rhowch y cyfrinair. Wedi anghofio eich cyfrinair? Creu un newydd nawr.