Gorfodi Traffig sy'n Symud
View this page in English / Gweld y dudalen hon yn Saesneg
Hoffem glywed eich barn ar ein cynlluniau i wneud cais am bwerau i orfodi troseddau traffig sy’n symud i greu rhwydwaith trafnidiaeth mwy diogel ac effeithlon.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ystyried gwneud cais i Lywodraeth Cymru am y pwerau i orfodi Troseddau Traffig sy’n Symud i wneud y rhwydwaith priffyrdd yn fwy diogel ac yn fwy dibynadwy i bob defnyddiwr.
Bydd cael pwerau i orfodi troseddau traffig sy’n symud yn ein helpu i wella amseroedd teithio, lleihau allyriadau, a gwneud teithio yn fwy diogel ac yn fwy didrafferth i holl ddefnyddwyr y ffordd.
Bydd eich adborth ar ein cynlluniau i wneud cais am y pwerau hyn yn ein helpu i lunio rhwydwaith ffyrdd sy'n diwallu anghenion pawb sy'n ei ddefnyddio.
Beth sy'n cael ei gynnig?
Yn 2014, rhoddodd y Llywodraeth bwerau i sicrhau bod mesurau gorfodi traffig sy’n symud (o dan Ran 6 Deddf Rheoli Traffig 2004) ar gael i awdurdodau lleol ledled Cymru. Mae'r Cyngor bellach yn ceisio'r pwerau gorfodi hyn i reoli lleoliadau penodol lle mae problemau parhaus o ran troseddau traffig sy’n symud.
Yn flaenorol, dim ond yr heddlu oedd yn gorfodi cyfyngiadau traffig sy’n symud fel troeon gwaharddedig, blychau melyn a chyfyngiadau traffig eraill. Fodd bynnag, gall fod yn anodd i'r heddlu neilltuo adnoddau i orfodi'r troseddau hyn.
Trwy gymryd rheolaeth o'r pwerau hyn, bydd y Cyngor yn gallu defnyddio camerâu Adnabod Rhif Cerbydau yn Awtomatig (ARhCA) i orfodi troseddau traffig sy’n symud, gan arwain at fwy o gydymffurfio a ffyrdd mwy diogel i bawb.
Yn bwysig, nid ydym yn cyflwyno unrhyw gyfyngiadau traffig newydd, yn hytrach rydym yn ceisio pwerau i orfodi’r rhai presennol yn effeithiol.
Trwy weithredu mesurau gorfodi traffig sy’n symud, rydym yn gallu:
- Lleihau tagfeydd a thraffig segur, gan helpu i wella ansawdd aer
- Gwella diogelwch ar y ffyrdd
- Creu mwy o le i bobl gerdded, beicio ac olwyno ar draws y sir
- Cadw traffig yn llifo, gan wneud amseroedd teithio yn fwy dibynadwy
- Lleihau oedi i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus
Mae'r safleoedd canlynol wedi'u cyflwyno fel rhan o'r cais ar gyfer gorfodi traffig sy’n symud:
- Safle 1: Port Road, Y Barri (Ysgol Uwchradd Whitmore) - Gwahardd Troi i'r Dde
- Safle 2: Ffordd ddienw sy'n cysylltu Heol Redlands /Heol Sili (mynediad i Norris Close), Penarth - Unffordd
- Safle 3: Heol Caerdydd, Dinas Powys – Lôn Fysus
- Safle 4: Heol Dryden, Penarth – Stryd Ysgol
Mae'r rhain wedi'u dewis fel y safleoedd cyntaf ar gyfer gorfodi traffig sy’n symud gan fod adroddiadau hysbys o gerbydau yn torri'r cyfyngiadau, pryderon diogelwch, a materion llif traffig.
Os yw'r cais i orfodi troseddau traffig sy’n symud yn llwyddiannus, bydd y Cyngor yn gallu dechrau gorfodi cyfyngiadau ar draws Bro Morgannwg. Bydd y Cyngor yn asesu lleoliadau eraill ar gyfer gorfodi traffig sy’n symud fel rhan o gamau diweddarach y broses, yn enwedig mewn lleoliadau lle mae achosion o ddiffyg gyrwyr i gadw at gyfyngiadau traffig.
Sut bydd troseddau traffig sy’n symud yn cael eu gorfodi?
Bydd camerâu Adnabod Rhif Cerbydau yn Awtomatig (ARhCA) yn cael eu gosod i adnabod cerbydau nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheolau ffyrdd a gorfodi cyfyngiadau penodol ledled y sir.
Bydd y camerâu yn dal Rhif Cofrestru'r Cerbyd, gan alluogi Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) i gael ei gyhoeddi i'r ceidwad cofrestredig pan fydd trosedd yn digwydd.
Bydd unrhyw incwm o HTCau yn mynd yn ôl i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer:
- Adennill costau gorfodi
- Mentrau diogelwch ar y ffyrdd
- Buddsoddi mewn prosiectau gwella priffyrdd a'r amgylchedd
Yn amodol ar yr ymgynghoriad a'r pwerau yn cael eu caniatáu, byddai camerâu yn dechrau gorfodi tramgwyddau traffig yn ddiweddarach yn 2026.
Bydd unrhyw ddeunydd camera a gaiff ei recordio bob amser yn cael ei adolygu gan staff hyfforddedig y Cyngor cyn gwneud penderfyniad i gyhoeddi HTC. Mae'r holl ddata yn cael ei drin gan gadw’n llym at ofynion GDPR.
Dweud eich dweud
Cyn gwneud cais am y pwerau hyn, rydym yn gofyn am adborth gan y gymuned dros gyfnod o chwe wythnos o 9 Mawrth tan 19 Ebrill 2026.
Bydd hyn yn galluogi pobl i rannu eu barn ac yn ein helpu i ddeall unrhyw faterion gorfodi yn y lleoliadau a ddewiswyd.
Yn ystod y cyfnod ymgynghori, byddwn yn ymgysylltu â'r gwasanaethau brys, cynghorwyr lleol, a rhanddeiliaid allweddol eraill, fel grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau, a grwpiau diddordeb arbennig gan gynnwys grwpiau beicio a hygyrchedd.
Gallwch ddweud eich dweud ar y newidiadau arfaethedig drwy ymweld â'n gwefan a chwblhau'r arolwg ar-lein erbyn 19 Ebrill 2026.