Beth yw trosedd traffig sy’n symud?

    Trosedd traffig sy’n symud yw pan fydd gyrwyr yn methu â chydymffurfio â gorchymyn traffig ac mae'n rhywbeth sy'n cael ei orfodi gan yr heddlu ar hyn o bryd.  

    Mae hon yn ffordd o reoli ymddygiad traffig sy'n symud drwy gyhoeddi Hysbysiadau Tâl Cosb (HTCau) ar gyfer modurwyr sy'n torri'r cyfyngiadau sydd ar waith. 

    Beth yw'r tramgwyddau rydym yn ceisio eu gorfodi?

    • Troadau gwaharddedig i'r chwith neu'r dde: Pan fydd cerbyd yn troi ar ffordd yn erbyn y cyfeiriad a ddangosir ar arwyddion. Gall anwybyddu'r rhain fod yn beryglus a gallai arwain at wrthdrawiad traffig. 
    • Unffordd: Mynd i mewn i stryd unffordd lle mae arwydd dim mynediad neu yrru i'r cyfeiriad teithio anghywir lle mae cyfyngiad unffordd ar waith. 
    • Lonydd bysus: Gyrru ar lwybrau ar gyfer bysus, beiciau, tacsis, a beiciau modur yn unig. Gall hyn achosi tagfeydd a gallai arwain at wrthdrawiadau. 
    • Strydoedd Ysgol: Cerbydau heb drwydded eithrio yn gyrru lle mae ffyrdd ar gau o amgylch amseroedd gollwng a chasglu plant ysgol. 

    Os yw'r rhain yn cael eu gorfodi gan yr heddlu ar hyn o bryd, pam mae angen i'r Cyngor wneud?

    Er y gall troseddau traffig sy’n symud gael eu gorfodi gan yr heddlu, gall fod yn anodd neilltuo'r adnoddau i wneud hyn yn effeithiol, sy'n golygu bod troseddau yn dal i ddigwydd heb gosb. 

    Bellach, rydym yn ceisio pwerau gorfodi ar gyfer troseddau traffig sy’n symud, fel y bydd gorfodi yn cael ei arfer gan y Cyngor. Trwy gymryd rheolaeth o'r pwerau hyn, byddwn yn gallu defnyddio camerâu Adnabod Rhif Cerbydau yn Awtomatig (ARhCA) i orfodi troseddau traffig sy’n symud, gan arwain at fwy o gydymffurfio a ffyrdd mwy diogel i bawb. 

    Pam rydym yn ymgynghori â'r cyhoedd ar newidiadau i'r ffordd rydym yn gorfodi troseddau traffig sy’n symud?

    Bydd cael y pwerau gorfodi hyn yn ein helpu i greu ffyrdd mwy diogel a llai o dagfeydd ledled y sir. Hoffem sicrhau bod ein cynlluniau yn diwallu anghenion y gymuned ac mae angen eich adborth arnom i gefnogi ymdrechion presennol i wneud strydoedd yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i bawb. Trwy rannu eich barn, bydd yn ein helpu i ddeall unrhyw faterion gorfodi yn y lleoliadau a ddewiswyd a sut y gallwn wneud i'r cyfyngiadau hyn weithio'n well i holl ddefnyddwyr y ffyrdd.

    Ble rydym yn cynnig newidiadau?

    Rydym yn gofyn am adborth ar newidiadau i orfodi'r cyfyngiadau presennol mewn pedwar lleoliad: 

    • Safle 1: Port Road, Y Barri (Ysgol Uwchradd Whitmore) - Gwahardd Troi i'r Dde 
    • Safle 2:Ffordd ddienw sy'n cysylltu Heol Redlands /Heol Sili (mynediad i Norris Close), Penarth - Unffordd 
    • Safle 3:Heol Caerdydd, Dinas Powys – Lôn Fysus 
    • Safle 4: Heol Dryden, Penarth – Stryd Ysgol

    Pam mae’r lleoliadau hyn wedi eu dewis?

    Mae'r rhain wedi'u dewis fel y safleoedd cyntaf ar gyfer gorfodi traffig sy’n symud gan fod adroddiadau hysbys o gerbydau yn torri'r cyfyngiadau, pryderon diogelwch, a materion llif traffig. Y rhesymau penodol ar gyfer pob safle yw: 

    • Safle 1 (Port Road, Y Barri) – Gwahardd troi i'r dde: Mae problemau hysbys o ran traffig, tagfeydd a diogelwch ar y ffyrdd a achosir gan ddiffyg cydymffurfio, gan gynnwys materion a godwyd gan yr Orsaf Dân gyfagos sy'n gorfod croesi traffig ar y pwynt hwn. 
    • Safle 2 (Norris Close, Penarth) – Unffordd: Mae'r Cyngor yn derbyn adroddiadau diffyg cydymffurfio a gan ei fod yn agos i Ysgol Pen-y-Garth, mae'n bwysig dilyn y cyfyngiad hwn er mwyn galluogi mynediad ac er diogelwch plant. 
    • Safle 3 (Heol Caerdydd, Dinas Powys) – Lôn Fysus: Oherwydd lefelau uchel y traffig, mae cerbydau yn debygol o ddefnyddio'r lôn fysus i osgoi ciwio, gan achosi tagfeydd i fysus a thacsis. 
    • Safle 4 (Heol Dryden, Penarth) – Stryd Ysgol: Gweithredodd y Cyngor y cau strydoedd ysgol amseredig cyntaf yn Ysgol Gynradd Fairfield i wneud y stryd yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i ddisgyblion sy'n cerdded, yn olwyno ac yn beicio i'r ysgol. Dim ond drwy gyflwyno camerâu ARhCA y gellir gorfodi hyn yn effeithiol, a gallai hyn alluogi cynlluniau treialu Strydoedd Ysgol eraill i gael eu gwneud yn barhaol hefyd. 

    A fydd safleoedd eraill yn cael eu gorfodi hefyd?

    Os yw'r cais i orfodi troseddau traffig sy’n symud yn llwyddiannus, bydd y Cyngor yn gallu ystyried gorfodi cyfyngiadau ychwanegol ar draws Bro Morgannwg. Bydd y Cyngor yn asesu lleoliadau eraill ar gyfer gorfodi traffig sy’n symud fel rhan o gamau diweddarach y broses, yn enwedig mewn lleoliadau lle mae achosion o ddiffyg gyrwyr i gadw at gyfyngiadau traffig.

    Sut bydd y Cyngor yn gorfodi tramgwyddau?

    Bydd camerâu Adnabod Rhif Cerbydau yn Awtomatig (ARhCA) yn cael eu gosod ar y safleoedd i ddal unrhyw gerbydau sy'n torri'r cyfyngiadau. Ar ôl adolygu'r deunydd ffilm, bydd Hysbysiadau Tâl Cosb (HTCau) yn cael eu cyhoeddi drwy'r post i geidwad cofrestredig cerbyd sy'n torri'r cyfyngiad. 

    Gall yr heddlu barhau i ddefnyddio camerâu a dulliau eraill o orfodi cyfyngiadau traffig sy’n symud, gan gynnwys y rhai a orfodir gan gamerâu ARhCA y Cyngor. 

    Beth yw Hysbysiad Tâl Cosb (HTC)?

    Mae HTC yn ddirwy a gyhoeddir gan awdurdodau lleol am dorri rheolau parcio neu draffig, fel parcio'n anghyfreithlon, gyrru mewn lôn fysus, neu anwybyddu marciau blwch melyn. Rhaid iddynt gael eu talu neu apelio yn eu herbyn o fewn cyfnod penodol, yn aml gyda gostyngiad am dalu’n gynnar.

    Pam mae angen gorfodi traffig sy'n symud?

    Mae dyletswydd arnom i sicrhau bod traffig yn symud yn rhwydd ac yn ddiogel ar ein ffyrdd a gall gorfodi traffig sy’n symud ein helpu i wneud hyn yn effeithiol. Trwy weithredu mesurau gorfodi traffig sy’n symud, rydym yn gallu: 

    • Lleihau tagfeydd a thraffig segur, gan helpu i wella ansawdd aer 
    • Gwella diogelwch ar y ffyrdd 
    • Creu mwy o le i bobl gerdded, beicio ac olwyno ar draws y sir 
    • Cadw traffig yn llifo, gan wneud amseroedd teithio yn fwy dibynadwy 
    • Lleihau oedi i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus 

    A fydd marciau ac arwyddion ffyrdd gwell i wneud pobl yn ymwybodol o'r newidiadau?

    Bydd, lle mae angen arwyddion a marciau ffyrdd newydd, byddant yn cael eu gosod i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r newidiadau i orfodi camerâu. 

    Nid ydym yn gweithredu unrhyw gyfyngiadau newydd yn y lleoliadau hyn, ond bydd angen i yrwyr gydymffurfio â'r cyfyngiadau sydd eisoes ar waith. 

    Beth yw'r gosb am dorri cyfyngiad?

    Os yw gyrrwr yn torri cyfyngiad traffig, bydd y camau canlynol yn cael eu cymryd: 

    • Bydd y camerâu yn cofnodi’r Rhif Cofrestru Cerbyd, fel y gallwn gyflwyno Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) i'r gyrrwr.
    • Os bydd hyn yn digwydd o fewn y pythefnos cyntaf i lleoliad camera fynd yn fyw, bydd y gyrrwr yn: 
      • derbyn llythyr rhybudd am y tramgwydd cyntaf. Bydd hyn yn mynd yn uniongyrchol at geidwad cofrestredig y cerbyd. 
      • derbyn HTC bob tro arall y gwelir eu bod yn mynd yn groes i gyfyngiad.
    • Bydd HTC yn cael ei gyhoeddi'n awtomatig ar gyfer unrhyw dramgwyddau ar ôl y cyfnod rhybudd o bythefnos. 

    Sut byddwn yn defnyddio incwm a gynhyrchir gan Hysbysiadau Tâl Cosb (HTCau)?

    Mae gorfodi cyfyngiadau traffig sy’n symud yn gwella diogelwch ar y ffyrdd ac yn helpu traffig i lifo’n fwy didrafferth. Fodd bynnag, mae cynnal yr orfodaeth hon yn arwain at gostau sylweddol, megis gosod a chynnal camerâu, adolygu digwyddiadau, a phrosesu hysbysiadau.   

    Yn ôl y gyfraith, gall unrhyw incwm a gronnir ar ôl talu’r costau hyn gael ei ail-fuddsoddi mewn gwelliannau penodol sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth yn unig, gan gynnwys:  

    • Gwelliannau diogelwch ar y ffyrdd  
    • Cefnogi trafnidiaeth gyhoeddus  
    • Datblygu cynlluniau teithio llesol i gefnogi cerdded, beicio ac olwyno yn fwy diogel 
    • Talu costau'r rhaglen orfodi ei hun  

    A fydd cost i mi os yw'r cyngor yn gwneud newidiadau i'r ffordd y mae cyfyngiadau'n cael eu gorfodi?

    Na fydd. Bydd hyn yn arwain at gost i aelodau'r cyhoedd dim ond os ydynt yn cael Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) am beidio â chydymffurfio â'r cyfyngiadau.