Ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) 2021-2036
Gweld y tudalen hon yn Saesneg / View this page in English
Ymgynghoriad ar Dwf Tai yn y Barri
Mae'r Cyngor yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer safleoedd tai posib yn ardal y Barri fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol newydd.
Ym mis Medi 2024, cytunodd y Cyngor Llawn y dylai'r Strategaeth a Ffefrir fod yn sail i'r Cynllun ar Adnau, y cam nesaf o baratoi'r cynllun. Roedd y Strategaeth a Ffefrir yn cynnwys 5 safle allweddol, a fydd yn cyflawni rhan sylweddol o'r gofyniad tai cyffredinol ar gyfer Bro Morgannwg. Mae gwaith asesu pellach wedi codi pryderon ynghylch pa mor gyflawnadwy yw un o'r safleoedd allweddol hyn – Tir yng Ngogledd-ddwyrain y Barri, oddi ar Argae Lane – oherwydd materion perchnogaeth tir. O ganlyniad, cynigir peidio â bwrw ymlaen a’r safle hwn mwyach fel dyraniad o fewn y CDLlN ar Adnau.
Felly, mae angen chwilio am safleoedd amgen i ddisodli'r safle allweddol hwn gyda safleoedd tai eraill yn y Barri, gan mai hwn yw'r anheddiad mwyaf cynaliadwy yn y Fro o ran cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da, cyfleoedd cyflogaeth ac ystod eang o wasanaethau a chyfleusterau, a dyma'r ardal sydd â'r angen mwyaf am dai fforddiadwy.
Yn dilyn asesiad manwl o'r safleoedd ymgeisiol sydd ar gael, nodwyd bod safle allweddol amgen yn addas i'w ystyried ymhellach:
- Tir yng ngogledd-orllewin y Barri – 376 o unedau
Yn ogystal, mae dau safle llai wedi'u nodi fel safleoedd tai posibl:
- Tir yn Hayes Lane, The Bendricks – 70 o unedau; a
- Thir yn Neptune Road, Glannau’r Barri - 40 o unedau
Gyda'i gilydd byddai'r safleoedd hyn yn darparu bron i 500 o gartrefi mawr eu hangen, gan gynnwys tai fforddiadwy, yn ogystal â gwella seilwaith.
Rydym yn awyddus i glywed eich barn ar y safleoedd hyn. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol yn cael ei gynnal rhwng dydd Llun 16 Mehefin 2025 a dydd Llun 14 Gorffennaf 2025. Rhaid derbyn pob sylw yn ysgrifenedig erbyn 23.55 ddydd Llun 14 Gorffennaf 2025.
Bydd digwyddiad ymgynghori cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nghlwb Bowlio Millwood, Heol Pontypridd, y Barri, CF62 7LX ddydd Mawrth 24 Mehefin 2025 rhwng 3pm a 7pm.
Bydd hwn yn rhoi cyfle i chi rannu barn a gofyn cwestiynau mewn perthynas â safleoedd arfaethedig yn y Barri.
Bydd hyrwyddwyr safle'r safle allweddol arfaethedig yng ngogledd-orllewin y Barri yn y digwyddiad i lywio gwaith uwch-gynllunio'r safle mawr hwn yn unol ag egwyddorion creu lleoedd.
Mae rhagor o fanylion am yr ymgynghoriad ar gael ar y porthol ymgynghoriadau
There will be a further opportunity to comment on policies and proposals in the Deposit RLDP, including proposals for areas outside of Barry, when the Deposit Plan is published for consultation, anticipated in winter 2025/26.
Sut i wneud sylwad:
Mae'r Cyngor yn annog cyflwyno sylwadau'n electronig drwy ei borthol ymgynghoriadau ond bydd ffurflenni sylwadau a gyflwynir drwy'r post neu e-bost hefyd yn cael eu derbyn. Gellir lawrlwytho ffurflenni sylwadau o wefan y Cyngor neu maent ar gael yn y swyddfeydd sifil a llyfrgelloedd a gynhelir gan y Cyngor.
Gellir anfon ffurflenni wedi'u cwblhau drwy e-bost i ldp@valeofglamorgan.gov.uk neu drwy’r post i Dîm y CDLl, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, y Barri, CF63 4RU.
Gwyodaeth Cefndir
Bydd y CDLlN yn helpu i lunio Bro Morgannwg am y 15 mlynedd nesaf (o 2021 i 2036). Bydd yn ein helpu i benderfynu pa ddatblygiadau a fydd yn cael eu caniatáu ai peidio mewn gwahanol leoliadau, ac yn tynnu sylw at ardaloedd y mae angen i ni eu diogelu.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Chwefror 2024 ar y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y CDLlN. Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn nodi'r Weledigaeth, y Materion, yr Amcanion a'r Strategaeth Ofodol Eang ar gyfer Bro Morgannwg. Roedd hefyd yn cynnwys 5 safle allweddol a arweinir gan dai yn y Barri, Dinas Powys, y Rhws a Sain Tathan. Ym mis Medi 2024, ystyriodd y Cyngor llawn Strategaeth a Ffefrir y CDLlN, a chytunwyd y dylai'r strategaeth fod yn sail i'r CDLlN ar Adnau, y cam nesaf o baratoi'r cynllun.
I safleoedd gael eu cynnwys yn y Cynllun ar Adnau, rhaid dangos eu bod yn gyflawnadwy h.y. nid oes unrhyw rwystrau rhag datblygu a fyddai'n eu hatal rhag dod ymlaen o fewn cyfnod y cynllun. Ar hyn o bryd, mae pryderon ynghylch pa mor gyflawnadwy yw’r safle allweddol arfaethedig i’r gogledd-ddwyrain o’r Barri ac felly cynigir peidio â chynnwys y safle hwn fel dyraniad yn y Cynllun ar Adnau.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol hwn yn ceisio barn ar dri safle amgen a allai ddisodli'r safle allweddol gwreiddiol yn y Barri.