Beth yw’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd?

    Mae Cyngor Bro Morgannwg yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN). Bydd y CDLlN yn cwmpasu'r cyfnod 2021-2036 a bydd yn cymryd lle CDLl mabwysiedig 2011 – 2026. Bydd y CDLlN yn nodi ble a sut y bydd datblygiadau newydd yn digwydd yn y cyfnod hyd at 2036.  Bydd yn cynnwys dyraniadau safle ar gyfer gwahanol ddefnyddiau tir, fel tai a chyflogaeth, a pholisïau i helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur datganedig, diogelu'r amgylchedd, a sicrhau dyluniad o ansawdd uchel. Pan gaiff ei fabwysiadu gan y Cyngor, bydd y CDLl yn cael ei ddefnyddio fel sail ar gyfer penderfynu ceisiadau cynllunio. Mae'r CDLlN yn cael ei baratoi yn unol â chytundeb cyflawni diwygiedig.

    Sut mae'r CDLlN yn cael ei baratoi?

    Mae'r CDLlN yn cael ei baratoi gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae nifer o gamau i baratoi'r Cynllun a gwahanol gamau ymgynghori a chynnwys pobl wrth ei baratoi.  Cyn dechrau gweithio ar y CDLl, gwnaethom lunio Cytundeb Cyflawni sy'n nodi amserlen y CDLl a phryd a sut y gallai pobl gymryd rhan.  Wrth baratoi'r CDLl, byddwn yn adeiladu sylfaen dystiolaeth i lywio a chefnogi'r Cynllun.

    Pam mae angen disodli CDLl mabwysiedig 2011-2026?

    Mabwysiadwyd y CDLl presennol yn 2017 ac mae'n cynnwys amserlen 15 mlynedd hyd at 2026.  Bydd y CDLl mabwysiedig yn dod i ben ar ddiwedd 2026 ac felly mae'n hanfodol ei fod yn cael ei ddisodli i ddiogelu rhag datblygiadau annerbyniol. Bydd y CDLlN yn darparu cynllun datblygu, a'r sicrwydd y mae hyn yn ei roi i gymunedau a datblygwyr am 10 mlynedd arall, hyd at 2036.

    Beth yw’r sefyllfa nawr?

    Mae’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) Cyngor Bro Morgannwg, ynghyd â'r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig Cychwynnol a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd wedi dod i ben. Roedd yr ymgynghoriad yn fyw am 10 wythnos, o ddydd Mercher 6 Rhagfyr 2023 i ddydd Mercher 14 Chwefror 2024.

    Beth yw diben y Strategaeth a Ffefrir?

    Y Strategaeth a Ffefrir yw'r cam ymgynghori cyhoeddus ffurfiol cyntaf yn y broses o baratoi’r CDLlN. Ar y cam hwn rydym yn gosod cyfeiriad y CDLlN yn fras.  Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn nodi gweledigaeth ar gyfer lle rydym am i Fro Morgannwg fod yn 2036, y materion a’r amcanion, a strategaeth ofodol eang; gan gynnwys y twf mewn poblogaeth, tai a chyflogaeth a sut y bydd y twf hwn yn cael ei ledaenu ar draws Bro Morgannwg.  Pwrpas ymgynghori ar Strategaeth a Ffefrir yw adeiladu consensws ar rai o'r agweddau hyn ar y CDLlN a galluogi partïon â diddordeb i roi adborth ar y rhain cyn paratoi'r cynllun drafft llawn, o'r enw'r Cynllun ar Adnau.

    Beth yw’r Strategaeth a Ffefrir?

    Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn nodi gweledigaeth ar gyfer lle rydym am i Fro Morgannwg fod yn 2036, y materion a’r amcanion, a strategaeth ofodol eang; gan gynnwys y twf mewn poblogaeth, tai a chyflogaeth a sut y bydd y twf hwn yn cael ei ledaenu ar draws Bro Morgannwg.  Gellir gweld y Strategaeth a Ffefrir yn llawn ar ein porth ymgynghori:  Cyngor Bro Morgannwg / Vale of Glamorgan Council - Ymgynghoriadau (oc2.uk).  Fel arall, mae fersiwn gryno hawdd ei darllen o'r ddogfen hefyd wedi'i drafftio.

    Yn fyr, mae'r Strategaeth a Ffefrir yn nodi Strategaeth Twf Cynaliadwy ar gyfer y CDLlN, sy'n cynnwys chwe phrif elfen fel a ganlyn:       

    • Darparu lefel gynaliadwy o dwf tai a chyflogaeth wedi’i gefnogi gan seilwaith priodol i gyd-fynd â safle'r Fro ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. 
    • Alinio lleoliadau ar gyfer tai, cyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau newydd i leihau'r angen am deithio. 
    • Canolbwyntio datblygiad mewn lleoliadau sy'n cael eu gwasanaethu'n dda gan orsafoedd rheilffyrdd presennol ac arfaethedig fel rhan o gynllun Metro De Cymru ac mewn ardaloedd sydd â chysylltiadau bws da.
    •  Caniatáu ar gyfer datblygiadau ar raddfa fach a arweinir gan dai fforddiadwy mewn aneddiadau y tu allan i’r Ardal Twf Strategol ar raddfa gymesur â maint yr anheddiad. 
    • Cefnogi rôl Maes Awyr Caerdydd fel porth strategol ar gyfer cysylltedd rhyngwladol. 
    • Caniatáu ar gyfer cyfleoedd adfywio, gan gynnwys yn Aberddawan a Dociau'r Barri

    Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn nodi bod angen 168 hectar o dir cyflogaeth ar draws 67.8ha er mwyn gallu darparu 5,338 o swyddi.  Mae hefyd yn nodi y bydd angen 8,679 o gartrefi newydd i ddarparu gofyniad tai o 7,890 o anheddau dros gyfnod y cynllun (gan gynnwys lwfans o 10%). Byddai hyn yn cynnwys targed o 2000 o dai fforddiadwy.  

    A fydd y Strategaeth a Ffefrir yn dyrannu safleoedd newydd i'w datblygu?

    Ni fydd y Strategaeth a Ffefrir yn dyrannu safleoedd newydd, a dim ond trwy ddatblygiad y gellir dyrannu safleoedd i’w datblygu (megis y CDLlN terfynol). Fodd bynnag, mae'r Strategaeth a Ffefrir yn nodi pum safle tai allweddol newydd i'w dyrannu yn y CDLlN yn ogystal â safleoedd a ddyrennir o fewn y CDLl mabwysiedig y bwriedir eu cynnwys yn y CDLlN a'r safleoedd 'ymrwymedig' (safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio). Gellir gweld y safleoedd tai arfaethedig ym mholisi SP4 y Strategaeth a Ffefrir.   Mae'r Strategaeth a Ffefrir hefyd yn nodi tir ar gyfer cyflogaeth mawr a lleol ac ardaloedd cyfle adfywio cyflogaeth, sydd wedi'u nodi o dan Bolisi SP13. Bydd safleoedd tai ychwanegol a safleoedd ar gyfer defnydd tir arall yn cael eu nodi o fewn y CDLlN ar Adnau: Cyngor Bro Morgannwg / Vale of Glamorgan Council - Ymgynghoriadau (oc2.uk)

    Ai'r Strategaeth a Ffefrir yw’r CDLlN terfynol?

    Nid y Strategaeth a Ffefrir yw'r CDLlN terfynol ac felly nid yw'n cynnwys yr holl bolisïau, cynigion defnydd tir neu seilwaith y bydd eu hangen i gefnogi datblygiad. Yn hytrach, hwn yw'r cam ymgynghori cyhoeddus ffurfiol cyntaf o gynhyrchu'r CDLlN ac mae'n nodi ei gyfeiriad yn fras. Bydd y manylion ychwanegol hyn yn cael eu nodi yn y CDLlN ar Adnau a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ar ddechrau 2025.

    Pryd a lle gallaf weld y Strategaeth a Ffefrir?

    Mae’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) Cyngor Bro Morgannwg, ynghyd â'r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig Cychwynnol a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd wedi dod i ben. Roedd yr ymgynghoriad yn fyw am 10 wythnos, o ddydd Mercher 6 Rhagfyr 2023 i ddydd Mercher 14 Chwefror 2024.

    Gellir dod o hyd i'r dogfennau ymgynghori ar y porth ymgynghoriadau: Cyngor Bro Morgannwg / Vale of Glamorgan Council - Ymgynghoriadau (oc2.uk).

    A fydd pobl yn gallu gweld fy sylwadau?

    Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn briodol, mae'r Cyngor yn bwriadu cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn.   Cyhoeddir enw'r person neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb gyda'r ymateb.  O'r herwydd, ni allwn dderbyn sylwadau dienw. 

    Bydd gwybodaeth yn cael ei chadw a'i chyhoeddi yn unol â pholisi preifatrwydd y Cyngor:  Cyngor Bro Morgannwg / Vale of Glamorgan Council - Preifatrwydd (oc2.uk)

    Sut fydd fy sylwadau'n cael eu defnyddio?

    Bydd y sylwadau a dderbynnir yn cael eu hystyried fel sylwadau ffurfiol i'r Strategaeth a Ffefrir neu ddogfennau eraill yr ymgynghorir arnynt, gan lywio cynnwys y Cynllun ar Adnau. Bydd y Cyngor yn ystyried ac yn dadansoddi'r sylwadau a wnaed a bydd yn cyhoeddi ymatebion i'r rhain lle bo hynny'n briodol. Bydd sylwadau a wneir ar Safleoedd Ymgeisiol yn llywio'r broses asesu fanwl.

    Beth sy'n digwydd ar ôl yr ymgynghoriad?

    Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, bydd y Cyngor yn ystyried yr ymatebion sy’n dod i law yn ofalus. Bydd Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol yn cael ei baratoi, a fydd yn nodi pwy yr ymgynghorwyd â nhw, y prif faterion a godwyd a sut y bydd y sylwadau hyn yn dylanwadu ar gam nesaf y gwaith o baratoi'r cynllun – y CDLlN ar Adnau.  Bydd yr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol yn cael ei ystyried gan y Cyngor llawn ddiwedd 2024. 

    Yn dilyn ymgynghoriad ar y CDLlN ar Adnau, bydd y Cyngor hefyd yn ystyried yr holl sylwadau a dderbynnir a bydd paratoadau yn cael eu gwneud i'r cynllun gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a fydd yn trefnu penodi Arolygydd Cynllunio annibynnol i gynnal archwiliad cyhoeddus.

    Yn dilyn yr archwiliad bydd yr Arolygydd yn cyhoeddi adroddiad yn argymell newidiadau sydd angen eu gwneud i'r CDLl. Os yw'r Arolygydd o'r farn nad yw’r Cynllun yn gadarn yn sylfaenol, ni fydd yn cael ei argymell i'w fabwysiadu. Bydd casgliadau'r Arolygydd yn gyfrwymol ac oni bai bod Llywodraeth Cymru yn ymyrryd, rhaid i'r Cyngor dderbyn y newidiadau a mabwysiadu’r CDLl fel y’i diwygiwyd. Ar ôl ei fabwysiadu, bydd y CDLl Newydd yn disodli'r CDLl presennol a fabwysiadwyd yn 2017 a bydd yn dod y fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.