Bro Oed-Gyfeillgar - Ymgyrch Herio Oedraniaeth

Rhannu Bro Oed-Gyfeillgar - Ymgyrch Herio Oedraniaeth ar Facebook Rhannu Bro Oed-Gyfeillgar - Ymgyrch Herio Oedraniaeth Ar Twitter Rhannu Bro Oed-Gyfeillgar - Ymgyrch Herio Oedraniaeth Ar LinkedIn E-bost Bro Oed-Gyfeillgar - Ymgyrch Herio Oedraniaeth dolen

View this page in English / Gweld y tudalen hwn yn Saesneg

Mae’r Fro Oed-Gyfeillgar yn cefnogi Diwrnod Gweithredu Heneiddio Heb Gyfyngiadau 2024

Nod ymgyrch Heneiddio Heb Gyfyngiadau yw sbarduno trafodaeth a sgwrs am beth yw gwahaniaethu ar sail oedran a newid y ffordd yr ydym i gyd yn meddwl am heneiddio. Mae’r Diwrnod Gweithredu yn gyfle i unigolion, chymunedau a gweithleoedd ddysgu, gweithredu a helpu i newid y ffordd yr ydym yn meddwl am heneiddio. Y Diwrnod Gweithredu yw eich cyfle i wneud gwahaniaeth.

Beth yw’r Diwrnod Gweithredu?

Yn wahanol i unrhyw nodwedd warchodedig arall, mae oedran yn effeithio ar bawb. Waeth beth fo'n hil, rhywedd, gallu, cyfeiriadedd rhywiol - rydym i gyd yn heneiddio. Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn effeithio ar bawb. Mae gan bawb, ym mhob man ran yn newid hyn.

Y Thema Eleni yw ‘Gweld a Chael Eich Gweld’

Gall y ffordd yr ydym yn cael ein cynrychioli wrth i ni fynd yn hŷn gael effaith ddwys ar gredoau, agweddau ac ymddygiad pobl eraill tuag atom ni – mae hyn yn arbennig o bwysig os yw rhai neu'r holl sylwadau hynny'n negyddol neu'n ystrydebol.

Mae hyn i gyd yn ymwneud â herio'r ffordd gul, negyddol ac ystrydebol yn aml y mae pobl hŷn a heneiddio’n cael eu portreadu yn ein cymdeithas.

  • Fel rhan o'n hymgyrch Heneiddio'n Dda, rydym yn llunio fideo i arddangos y ffyrdd y mae trigolion y Fro yn herio ystrydebau heneiddio. Hoffem wybod mwy am yr hyn rydych chi (neu rywun rydych chi'n ei adnabod) yn ei wneud i "heneiddio'n dda". P'un a yw'n dysgu sgil newydd, mynd i'r gampfa, neu gwrdd â'ch ffrindiau am goffi - mae yna lawer o ffyrdd o herio ystrydebau bob un dydd!

    Rydym yn chwilio am drigolion i ymddangos yn ein fideo. Cyflwynwch fideo ohonoch eich hun neu berson hŷn rydych chi'n ei adnabod sy'n dangos sut rydych chi'n herio ystrydebau oedran. Bydd y fideos gorau hefyd yn cael cyfle i ennill pecyn gwobrau Y Fro Oed-Gyfeillgar, felly peidiwch â theimlo ofn bod yn greadigol. 

    Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu i ddechrau eich fideo:

    1. Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i bobl eraill i'w helpu i heneiddio'n dda? 
    2. Beth yw'r peth gorau am dyfu'n hŷn? 
    3. Beth sydd bwysicaf i chi wrth fynd yn hŷn? 

    Cyflwyno fideo
    Rhannu Beth ydych chi'n ei wneud i herio ystrydebau heneiddio? ar Facebook Rhannu Beth ydych chi'n ei wneud i herio ystrydebau heneiddio? Ar Twitter Rhannu Beth ydych chi'n ei wneud i herio ystrydebau heneiddio? Ar LinkedIn E-bost Beth ydych chi'n ei wneud i herio ystrydebau heneiddio? dolen