Strategaeth Goed Ddrafft

Rhannu Strategaeth Goed Ddrafft ar Facebook Rhannu Strategaeth Goed Ddrafft Ar Twitter Rhannu Strategaeth Goed Ddrafft Ar LinkedIn E-bost Strategaeth Goed Ddrafft dolen

Gweld y tudalen hwn yn Saesneg / View this page i English

Mae'r cyngor yn gyfrifol am filoedd o goed. Fodd bynnag, mae gorchudd canopi coed yn nhrefi Bro Morgannwg yn 13% yn ei gyfanrwydd, o'i gymharu â chyfartaledd Cymru o 16.3%, gyda darlun amrywiol o orchudd canopi ac arferion rheoli coed mewn gwahanol rannau o'r Fro. Mae gorchudd coed wedi parhau i ddirywio ac mae gwahaniaeth rhwng ardaloedd, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, fel yr amlygwyd yn Adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru 'Gorchudd Coed yn Nhrefi a Dinasoedd Cymru'. [1]

Ym mis Gorffennaf 2019, ymunodd Cyngor Bro Morgannwg â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eraill ledled y DU i ddatgan argyfwng hinsawdd mewn ymateb i adroddiad Newid yn yr Hinsawdd Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar effaith cynhesu byd-eang. Yn ogystal â hyn ym mis Gorffennaf 2021, datganodd y cyngor Argyfwng Natur yn dilyn adroddiad Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol (RhBC), 'Sefyllfa Byd Natur 2019', a ganfu fod 8% o'r rhywogaethau a ddarganfuwyd yng Nghymru (523) mewn perygl o ddiflannu o Brydain, mae 17% (666) dan fygythiad o ddiflannu o Gymru ac mae 73 eisoes wedi diflannu.

Bydd ymrwymiad y cyngor i'r Argyfwng Hinsawdd a'r Argyfwng Natur yn golygu bod angen i holl weithredoedd a pholisïau'r cyngor ystyried yr effaith ar yr hinsawdd a bioamrywiaeth ym Mro Morgannwg.

Mae'r cyngor wedi cyflawni'r Strategaeth Goed hon gan fod gan goed, coetiroedd a gwrychoedd rôl hanfodol wrth fynd i'r afael ag eithafion hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Bydd y Strategaeth hon yn edrych ar sut yr ydym yn amddiffyn, rheoli a chynyddu ein gorchudd canopi coed i adeiladu gwydnwch, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth gan fod coed yn rhan annatod o'n hamgylchedd ac mae ganddynt rôl allweddol wrth olrhain newid yn yr hinsawdd.

Rydym yn ceisio barn trigolion a phartïon eraill sydd â diddordeb ar gynnwys y Strategaeth Goed ddrafft cyn iddi gael ei chwblhau, ei chytuno a'i gweithredu.

Gallwch ddweud eich dweud drwy gwblhau'r arolwg isod neu ysgrifennu atom yn:

consultation@valeofglamorgan.gov.uk

  • Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.