Prosiect Sero – Sut gallwch chi helpu

Rhannu Prosiect Sero – Sut gallwch chi helpu ar Facebook Rhannu Prosiect Sero – Sut gallwch chi helpu Ar Twitter Rhannu Prosiect Sero – Sut gallwch chi helpu Ar LinkedIn E-bost Prosiect Sero – Sut gallwch chi helpu dolen

Gweld y tudalen hwn yn Saesneg / View this page in English

Gall pawb ohonom helpu i gyfyngu ar newid hinsawdd. O'r trydan rydyn ni’n ei ddefnyddio, i'r bwyd rydyn ni’n ei fwyta, y ffordd rydyn ni’n teithio, a'r pethau rydyn ni’n eu prynu, gallwn ni wneud gwahaniaeth. Dysgwch am yr hyn y gallwch ei wneud gartref i gefnogi Prosiect Sero a rhannwch eich syniadau gyda ni.

Ynni

Gofynnwch i'ch darparwr ynni osod Mesurydd Deallus i'ch helpu i ddeall a rheoli eich defnydd a'ch costau ynni. Bydd hyn yn eich helpu i weld faint o ynni rydych chi'n ei ddefnyddio, ac a allech ddefnyddio llai trwy newid cyfarpar neu ddiffodd eich gwres.

Insiwleiddiwch eich cartref. Gwnewch yn siŵr bod eich waliau, eich to a'ch ffenestri wedi'u hinswleiddio er mwyn gwastraffu llai o wres. Edrychwch ar Gynllun Nesta i gael cyngor am ddim ac, os ydych yn gymwys, becyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim.

Mae gwresogi dŵr yn cyfrif am 18% o gostau ynni'r cartref ar gyfartaledd, felly mae arbed dŵr yn arbed ar filiau ynni. I arbed dŵr, peidiwch â gadael eich tap i redeg pan fyddwch chi'n brwsio'ch dannedd, sicrhewch fod blaen eich cawod yn un effeithiol ac arhoswch am lai o amser dan y gawod. Mwy o awgrymiadau arbed dŵr.

Diffoddwch oleuadau pan nad oes eu hangen a newidiwch i fylbiau LED neu oleuadau ynni isel eraill. Rhowch oleuadau allanol neu ddiogelwch ar amseryddion neu sicrhewch eu bod yn cynnau’n ymateb i symudiad fel mai dim ond pan fo angen maen nhw ynghyn.

Mae cadw’n gynnes yn hollbwysig, yn enwedig i bobl hŷn yn y cartref. Mae Age UK argymell gwisgo haenau a chadw'n actif gartref, ac mae'r Fro yn cefnogi'r Cynllun Mannau Cynnes gyda rhwydwaith o fannau cymunedol cynnes a chroesawgar yn dod â phobl ynghyd y gaeaf hwn heb unrhyw gost.

I weld rhagor o gynghorion arbed ynni fel troi eich boeler i lawr a golchi dillad ar dymheredd is, ewch i'r Ymgyrch Cymorth Cartrefi.

Ailgylchu a gwastraff

Arbedwch, ailddefnyddiwch, ailgylchwch Defnyddiwch lai, ailddefnyddiwch pryd e bynnag y bo modd ac ailgylchwch pan nad oes angen rhywbeth arnoch chi mwyach.

Torrwch faint o becynnau untro sydd yn eich siopa bwyd: prynwch ffrwythau a llysiau rhydd, chwiliwch am siop leol sy’n ail-lenwi cynwysyddion nwyddau sych a chynhyrchion glanhau, a defnyddiwch eich cynwysyddion a bagiau y gellir eu hailddefnyddio wrth siopa.

Defnyddiwch eich cwpan ailddefnyddiadwy eich hun ar gyfer coffi tecawê a photel ddŵr y gellir ei hail-lenwi. Oeddech chi'n gwybod ein bod ni'n defnyddio bron 40 miliwn o boteli plastig untro y dydd yn y DU, a 2.5 biliwn o gwpanau tafladwy bob blwyddyn!

Ymestynnwch oes eich eiddo e.e. trwsio dillad, rhoi gwadnau newydd ar esgidiau ac atgyweirio teclynnau. Mae Caffis trwsio misol yn cael eu cynnal yn Y Barri, Penarth, Llanilltud Fawr a'r Bont-faen, ac maen nhw'n ffordd wych o atgyweirio’ch eitemau am ddim.

Pan fydd angen rhywbeth arnoch neu os byddwch yn cael gwared ar rywbeth nad yw wedi cyrraedd diwedd ei oes, ystyriwch siopau elusen a fforymau ar-lein fel grwpiau ailddefnyddio Facebook, Freecycle, ebay a Vinted. Beth am drefnu sesiwn cyfnewid dillad gyda ffrindiau i adnewyddu eich cwpwrdd dillad, neu roi eitemau diangen i'r rhai mewn angen.

Cyn prynu eitem y byddech yn ei defnyddio'n anaml, ystyriwch fenthyg o ‘Lyfrgell Pethau’ Benthyg sydd yn y Barri ac ym Mhenarth ar hyn o bryd. Mae ganddynt amrywiaeth eang o eitemau i'w benthyg ar gost isel, o beiriannau lladd gwair i boptai araf, pebyll a gazebos. Efallai y bydd Benthyg hyd yn oed yn gallu defnyddio eu beic cargo i gludo eitemau atoch neu eu casglu!

FAr gyfer unrhyw beth na ellir ei drwsio neu ei ailddefnyddio, ailgylchwch, a defnyddiwch y bag du ddim ond pan nad oes modd ailgylchu rhywbeth. Mae mwy o wybodaeth yng Nghanllaw Ailgylchu Bro Morgannwg.

Trafnidiaeth

Cerddwch neu seiclwch yn lle defnyddio car. Gallwch fwynhau'r manteision corfforol a meddyliol, a'r arian gaiff ei arbed. Ar gyfer teithiau hirach, defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus, neu rhowch gynnig ar gynlluniau rhannu ceir.

Os ydych yn masnachu yn eich car disel neu betrol, ystyriwch fodel trydan neu hybrid. Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cyflwyno pwyntiau gwefru EV ledled y Fro.

Os oes gennych bwynt gwefru EV gartref, gallech ei rentu i gymydog i'w helpu i newid i drydan. Darganfyddwch fwy yn Co Charger.

Sicrhewch fod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am Deithio Llesol ac Astudiaethau Achos y Fro, gan gynnwys llwybrau teithio a ble i ddod o hyd i bwmp beic a gorsafoedd trwsio. Os ydych chi'n gwybod am ardal fyddai'n elwa o stondin beic, gwnewch gais drwy’r 'Cynllun Beicio Diogel'.

Ymgyfarwyddwch â Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys awgrymiadau ar y reidiau gorau yng Nghymru, a mannau picnic gwych!

Mannau gwyrdd a natur

Os oes gennych le yn eich gardd, ystyriwch gompostio bwyd heb ei goginio fel crwyn llysiau neu ffrwythau.

Gallwch greu gardd sy’n dda i fywyd gwyllt, hyd yn oed mewn lle bach, gan annog adar a phryfed i'ch gardd a chefnogi bioamrywiaeth.

Ymunwch â grŵp lleol ac ewch allan i'r awyr agored. Mae llawer i'w wneud, o deithiau cerdded i lanhau traethau, ynghyd â chyfleoedd i wirfoddoli gyda'r Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor. Cofiwch archwilio cyfoeth y parciau a gerddi ledled y Fro.

Try Rhowch gynnig ar dyfu eich ffrwythau a'ch llysiau eich hun yn eich gardd neu mewn potiau. Ystyriwch randir, ond byddwch yn amyneddgar gan fod rhestr aros ar hyn o bryd oherwydd eu poblogrwydd.