Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac E.ON i gefnogi aelwydydd mewn cartrefi wedi'u hinswleiddio'n wael, gan wneud yr aelwydydd hynny'n fwy effeithlon o ran ynni a helpu i leihau effaith biliau ynni cynyddol. Mae Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO4) yn gynllun effeithlonrwydd ynni llywodraeth y DU, a weinyddir gan OFGEM, lle mae'n rhaid i gwmnïau ynni gyflwyno mesurau effeithlonrwydd ynni i eiddo preswyl er mwyn mynd i'r afael â thlodi tanwydd a helpu i leihau allyriadau carbon. Mae'r cynllun wedi gweld eiddo cymwys, gyda bandiau sgorio effeithlonrwydd ynni D-G, wedi'u gosod â mesurau amrywiol sy'n effeithlon o ran ynni megis mesurau inswleiddio, gwres canolog, gwres adnewyddadwy, a chysylltiadau gwres ardal. Yn ogystal ag ECO4 Flex, rydym yn cydweithio ag E.ON i hybu cyllid eco cymhwysedd safonol ar draws pob cynllun a hefyd yn gweithio gyda NEST a'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni i gynnig cymorth perthnasol. Mae ein Tîm Adfywio hefyd yn gweinyddu Benthyciadau Tai Di-log i helpu perchnogion eiddo i gadw eu cartrefi'n ddiogel, yn gynnes a diogel a chynorthwyo gyda chostau i wneud eiddo yn fwy effeithlon o ran ynni megis ailosod toeau diffygiol, trwsio diffygion llaith a strwythurol, a helpu gyda chost systemau gwresogi newydd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am gynllun ECO4 (Dolen allanol) ar wefan Cyngor Bro Morgannwg.