Taliadau Treth Gyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor
Mae'r ymgynghoriad hwn nawr ar gau.
Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn
Hyd at y flwyddyn ariannol 2022/23, roedd adrannau 12A a 12B Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn galluogi cynghorau yng Nghymru i godi symiau uwch (premiwm) o hyd at 100% ar ben cyfradd safonol treth gyngor ar gartrefi gwag hirdymor (Adran 12A) ac ail gartrefi (Adran 12B).
Mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio Adrannau 12A a 12B Deddf 1992 drwy Reoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022. Mae'r newidiadau deddfwriaethol yn golygu y bydd Cynghorau yn gallu codi premiwm o 1 Ebrill 2023 o hyd at 300% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor. Bydd pob Cyngor yn gallu dewis lefel y premiwm sy'n cael ei godi ar ail gartrefi neu eiddo gwag hirdymor yn eu sir.
Rydym eisiau clywed eich barn ar sut y dylen ni ymateb i'r newid mewn deddfwriaeth sy'n cynyddu'r premiwm y gallwn ei weithredu ar ail gartrefi neu eiddo gwag hirdymor. Os ydych am rannu eich barn, ymatebwch i'r arolwg hwn erbyn 6 Ionawr 2023.
Beth yw’r Dreth Gyngor?
Mae’r Dreth Gyngor yn dreth leol a osodir gan y Cyngor ar sail band gwerthuso eich eiddo. Defnyddir yr incwm a gynhyrchir i ariannu'r heddlu, y Gwasanaeth Tân, Cynghorau Cymuned/Tref a Chyngor Bro Morgannwg.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn defnyddio’r refeniw a godir drwy'r Dreth Gyngor i ariannu gwasanaethau lleol hanfodol fel addysg, gwasanaethau cymdeithasol, casgliadau gwastraff a gwaith cynnal a chadw'r priffyrdd.
Beth yw ystyr "ail gartrefi" ac "eiddo gwag hirdymor"?
Ail gartref yw annedd nad yw’n unig neu brif gartref person ac sydd wedi’i ddodrefnu'n sylweddol. Mae Deddf 1992 yn cyfeirio at yr anheddau hyn fel anheddau a feddiannir yn gyfnodol, ond cyfeirir atynt yn gyffredin fel "ail gartrefi". Gall hyn gynnwys eiddo a ddefnyddir fel llety gwyliau byrdymor sy'n destun y Dreth Gyngor ac nad ydynt yn gymwys ar gyfer yr eithriadau statudol.
Eiddo gwag hirdymor yw annedd sy'n wag ac sydd heb ei ddodrefnu’n sylweddol am gyfnod parhaus o flwyddyn o leiaf.
Yn ôl y gyfraith, mae rhai eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi wedi'u heithrio rhag talu Premiwm y Dreth Gyngor. Rhestrir y rhain isod:
Dosbarthiadau o Eiddo | Diffiniad | Ffurflen Gais |
---|---|---|
Dosbarth 1 | Anheddau sy'n cael eu marchnata ar werth | Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi |
Dosbarth 2 | Anheddau sy'n cael eu marchnata ar osod | Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi |
Dosbarth 3 | Adeiladau allanol sy'n ffurfio rhan o brif annedd | Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi |
Dosbarth 4 | Prif breswylfa os nad sy'n byw mewn llety'r lluoedd arfog | Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi |
Dosbarth 5 | Lleiniau carafanau wedi'u meddiannu ac angorfeydd | Ail Gartrefi |
Dosbarth 6 | Cartrefi tymhorol na chaniateir iddynt gael eu meddiannu drwy gydol y flwyddyn | Ail Gartrefi |
Dosbarth 7 | Anheddau sy'n gysylltiedig â swyddi | Ail Gartrefi |
Rhesymeg dros gyflwyno premiymau
Mae buddion amlwg mewn cyflwyno premiymau, gan gynnwys:
Dod ag eiddo gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd a chefnogi'r Cyngor i ddarparu cartrefi diogel a fforddiadwy. Mae’r angen am dai fforddiadwy ym Mro Morgannwg erbyn 2026 yn 1,205 y flwyddyn:
Mae bodolaeth nifer fawr o dai gwag hirdymor yn dreth ar adnoddau'r Cyngor er enghraifft, costau gwaith allgymorth a gwaith achos sy’n ymwneud â chwynion a gwaith brys, felly os llwyddir yn gyffredinol i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd, byddai'r baich ar y pwrs cyhoeddus yn cael ei leihau
Budd ariannol i'r Cyngor a fydd yn helpu i ariannu gwasanaethau hanfodol mewn cyfnod anodd o gyfyngiadau cyllidebol
Mae'r Cyngor yn ystyried yr amser mwyaf priodol i gyflwyno'r premiymau posibl, a allai, ar gyfer ail gartrefi, fod o'r flwyddyn ariannol 2024-25 ac ar gyfer eiddo gwag hirdymor gallai fod naill ai'r flwyddyn ariannol 2023-24 neu'r flwyddyn ariannol 2024-25. Pe bai'r dyddiad effeithiol o gyflwyno unrhyw bremiwm gwag hirdymor yn flwyddyn ariannol 2023/24 bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn adroddiad cyllideb terfynol priodol y Cyngor.
Opsiynau rydym yn eu hystyried
Dewis Un
Cynnal polisi presennol Bro Morgannwg, sef peidio â chodi premiwm a pharhau i godi cyfradd safonol y Dreth Gyngor yn ôl band ar gyfer pob eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.
Dewis Dau
Codi premiwm o 100% ar eiddo gwag hirdymor a phremiwm o 100% ar ail gartrefi.
Dewis Tri
Codi premiwm o 200% ar eiddo gwag hirdymor a phremiwm o 200% ar ail gartrefi.
Dewis Pedwar
Codi premiwm o 300% ar eiddo gwag hirdymor a phremiwm o 300% ar ail gartrefi.
Y Dewis a Ffefrir
O ystyried y pwysau lleol ar dai a chyllid llywodraeth leol cynigir bod opsiwn dau yn cael ei weithredu, a thrwy hynny godi premiwm o 100% ar bob eiddo gwag hirdymor a phremiwm o 100% ar ail gartrefi.