Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.
Hyd yn hyn, mae'r prosiect wedi gweithio gyda'r gymuned ac ysgolion lleol i blannu perllan gymunedol gyda 30 o goed ffrwythau treftadaeth Gymreig er mwyn i bobl a bywyd gwyllt eu mwynhau. Bydd y coed ffrwythau hyn yn tyfu rhwng 10 a 15 troedfedd ac wedi cael eu himpio ar wreiddgyff corachu er mwyn cyfyngu ar eu maint. Bydd y berllan yn darparu ffrwythau i'r gymuned eu defnyddio yn ogystal â darparu adnodd bwyd ar gyfer pryfed peillio a bywyd gwyllt arall.
Nawr, mae'r Cyngor a'r Bartneriaeth Natur Leol yn ymgynghori â thrigolion dros gynlluniau pellach i wella bioamrywiaeth ym Mharc Sant Cyres, Penarth.
Mae'r cynigion yn cynnwys y canlynol:
1. Ehangu coetir drwy adfywio naturiol
Mae'r prosiect yn cynnig defnyddio'r dull naturiol ac effeithiol hwn o gynyddu gorchudd coed mewn ardaloedd lle mae banc hadau naturiol eisoes yn bresennol.
- Mae coed sydd wedi'u hadfywio'n naturiol yn aml yn goroesi'n well na choed wedi'u plannu oherwydd eu hamrywiaeth genetig ehangach gan sicrhau eu bod yn fwy gwydn i hinsawdd sy’n newid, plâu a chlefydau.
- Gall adfywio naturiol greu mwy o dirweddau naturiol a chymysgedd rhywogaethau sy'n fwy buddiol i fywyd gwyllt.
- Mae adfywio naturiol hefyd yn arwain at fuddion fel gwella ansawdd dŵr neu leihau risg llifogydd ymhellach i lawr yr afon.
- Mae coed ifanc sydd wedi'u hadfywio'n naturiol yn wytnach na choed wedi'u plannu ac yn gallu ymateb yn well i amodau sych sy'n digwydd yn amlach.
Gall y ffin ddeheuol gael ei ffensio dros dro er mwyn caniatáu i'r glaswelltir adfywio yn brysgwydd a choetir heb fawr o darfu. Mae prysgwydd, er yn gallu edrych yn 'flêr' a heb ei reoli, yn rhoi cyfle i egin coed sefydlu. Yn aml mae coed ifanc yn goroesi'n well os ydynt yn datblygu gyda phrysgwydd dreiniog e.e. y ddraenen ddu neu fieri.
Bydd y mynediad presennol yn cael ei gadw ar gyfer holl ddefnyddwyr y parc sy'n dymuno mynd i'r ardaloedd coetir a bydd arwyddion ar gael i roi’r diweddaraf ar gynnydd i gadw ddefnyddwyr y parc.
2. Plannu coed ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Mae'r prosiect yn cynnig plannu deg coeden safonol brodorol fel coed Derw a fydd yn cynnig mannau cysgodol i bobl a chynefin i fywyd gwyllt. Bydd y rhain yn goed hynafol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn ystod y 400 mlynedd nesaf a byddant yn gwella tirwedd Parc Sant Cyres.
3. Sefydlu ardaloedd o ddolydd blodau gwyllt
Mae'r prosiect yn cynnig sefydlu ardaloedd bach o ddolydd blodau gwyllt. Bydd yr ardaloedd hyn yn cael eu gwella gan ddefnyddio hadau blodau gwyllt o ffynonellau lleol o'r dolydd gorau ym Mro Morgannwg gan helpu i greu dolydd newydd i bobl a natur eu mwynhau. Bydd y dolydd hyn yn cael eu rheoli'n briodol i ganiatáu i flodau dyfu a bwrw’u hadau gydol misoedd y Gwanwyn a'r Haf. Byddan nhw'n cael eu torri a'u casglu ddechrau'r Gwanwyn a diwedd yr Haf/dechrau'r Hydref a bydd llwybrau'n cael eu torri drwy'r ardaloedd hyn er mwyn sicrhau mynediad i holl ddefnyddwyr y parc.
Yn y DU, rydym wedi colli 97% o'n glaswelltiroedd blodau gwyllt ers y 1930au yn sgil trefoli a newidiadau i’r modd yr ydym yn rheoli tir. Dolydd blodau gwyllt yw un o'n cynefinoedd mwyaf bioamrywiol sy'n cynnal ystod enfawr o blanhigion ac anifeiliaid gwahanol, gan gynnwys ffyngau, pryfed, mamaliaid, adar, amffibiaid, ymlusgiaid a phlanhigion blodau gwyllt.