Pecyn Cymorth Cynnwys Plant a Phobl Ifanc Trawsryweddol

Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon

Gweld y tudalen hwn yn Saesneg / View this page in English

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.

Yn 2018 gwnaethom gynhyrchu Pecyn Cymorth a Dogfen Arweiniad Cynnwys Plant a Phobl Ifanc Trawsryweddol. Fe wnaethom ddylunio'r dogfennau hyn i helpu ysgolion ym Mro Morgannwg i gefnogi plant a phobl ifanc trawsryweddol. Ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eraill ein cefnogi ni gyda hyn.

Rydym nawr yn adolygu ein canllawiau a hoffem glywed eich barn. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein pecyn cymorth newydd yn addas i'r diben.

Rhannwch eich barn ar ein Pecyn Cymorth Cynnwys Plant a Phobl Ifanc Trawsryweddol Drafft drwy gwblhau ein harolwg ar-lein erbyn 17 Mawrth 2023.

Byddwn yn defnyddio eich adborth, yn ogystal â dysgu parhaus gan:

  • ysgolion
  • cymunedau gwahanol
  • ymchwil newydd
  • cyfraith achosion newydd
  • arfer gorau

i adolygu ein canllaw fel ei fod bob amser yn berthnasol ac yn gyfredol.

Mae’r Pecyn Cymorth hwn yn ychwanegiad pwysig i’r ystod o adnoddau a chanllawiau cydraddoldeb a gwrth-fwlio a ddarparwn i leoliadau addysg ym Mro Morgannwg.

Nodwch bydd y Pecyn Cymorth presennol yn cael ei dynnu nôl yn ystod y cyfnod ymgynghori, ond bydd y Cyngor yn parhau i weithio i ddiogelu pob grŵp o ddisgyblion a bydd yn rhoi cymorth fesul achos os gofynnir amdano.

Os byddai'n well gennych gyflwyno ymateb ysgrifenedig, anfonwch hi at consultation@valeofglamorgan.gov.uk