Cynllun Hirdymor ar gyfer y Barri

Rhannu Cynllun Hirdymor ar gyfer y Barri ar Facebook Rhannu Cynllun Hirdymor ar gyfer y Barri Ar Twitter Rhannu Cynllun Hirdymor ar gyfer y Barri Ar LinkedIn E-bost Cynllun Hirdymor ar gyfer y Barri dolen

Gweld y tudalen hon yn Saesneg / View this page in English

Bydd y Barri yn elwa o fuddsoddiad o £2 filiwn y flwyddyn am y deng mlynedd nesaf fel rhan o Gynllun Hirdymor ar gyfer Trefi, Llywodraeth y DU.

Bydd y cyllid yn cael ei ryddhau fesul cam, gan ganolbwyntio ar welliannau yn ymwneud â’r themâu allweddol hyn:

• Adfywio, y strydoedd mawr a threftadaeth

• Mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwella diogelwch

• Gwella cysylltedd – cerdded/beicio/trafnidiaeth

Bydd Partneriaeth y Barri newydd yn cael ei sefydlu i gasglu adborth gan drigolion lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i benderfynu ar y blaenoriaethau ar gyfer y cyllid.

Elfen allweddol o osod y cynllun hirdymor ar gyfer y Barri fydd cyfranogiad cymunedol.

Os hoffech chi fod yn rhan o greu gweledigaeth hirdymor y Barri a chyfrannu at drafodaeth ar y blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi dros y deng mlynedd nesaf, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Cofrestrwch i gymryd rhan mewn digwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned, neu i ymuno â'r Bartneriaeth a chael yr wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r cynllun ar gyfer y Barri fynd yn ei flaen.

Cynhaliwyd sesiwn gweithdy gychwynnol a digwyddiad galw heibio yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Memo yn y Barri ar ddydd Mercher 15 Mai.

  • Take Survey
    Rhannu Arolwg trigolion cynllun hirdymor ar Facebook Rhannu Arolwg trigolion cynllun hirdymor Ar Twitter Rhannu Arolwg trigolion cynllun hirdymor Ar LinkedIn E-bost Arolwg trigolion cynllun hirdymor dolen