Y Newyddion Diweddaraf
DATGANIAD I'R WASG
Beth fyddai eich blaenoriaeth ar gyfer adfywio'r Barri?
Yr hydref diwethaf, cyhoeddwyd y byddai'r Barri'n derbyn £2 filiwn y flwyddyn am y ddeng mlynedd nesaf gan Lywodraeth y DU fel rhan o'i grant Codi'r Gwastad.
Mae'r Llywodraeth wedi gofyn i bob tref sy'n derbyn y grant hwn dynnu sylw at eu blaenoriaethau lleol sy'n gysylltiedig â'r themâu canlynol:
• Adfywio, y strydoedd mawr a threftadaeth
• Mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwella diogelwch
• Gwella cysylltedd – cerdded/beicio/trafnidiaeth
Elfen allweddol o'r cynllun fydd cyfranogiad trigolion i dynnu sylw at yr hyn sydd bwysicaf yn eich ardal leol. Bydd Partneriaeth y Barri yn cael ei sefydlu, sy’n cynnwys trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol lleol, i benderfynu ar y blaenoriaethau ar gyfer sut y dylid gwario'r arian. David Stevens, cyn Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Admiral, fydd Cadeirydd y Bartneriaeth.
Wrth siarad am y prosiect, meddai David: "Nod y gwariant o £2 filiwn y flwyddyn dros y ddeng mlynedd nesaf yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r Barri, nid yn y byrdymor ond yn yr hirdymor. Er mwyn cyflawni hynny mae angen eich help chi arnom, eich syniadau gorau, ar sut i wneud yn fawr o'r arian."
Os hoffech chi gymryd rhan mewn llunio dyfodol y Barri, cofrestrwch eich diddordeb. Rydym yn chwilio am gynrychiolwyr a hoffai ymuno â'r Bartneriaeth, yn ogystal â'r rheini a hoffai rannu eu barn mewn digwyddiadau ymgysylltu yn y dyfodol.
Wrth siarad am y prosiect, dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Rwy'n falch iawn bod y Barri wedi derbyn y cyllid hwn, un o bedair tref yn unig yng Nghymru i elwa.
"Does gan y Barri a'i phobl ddim prinder talent nac uchelgais. Ar adeg pan fo cyllidebau'r Cyngor dan straen sylweddol, bydd y cyllid ychwanegol hwn yn darparu arian ar gyfer cyflawni'r uchelgais hwnnw yn y tymor hwy ac i gyflawni gwelliannau na allem eu fforddio.”
Diolch am eich cyfraniad!
Helpwch ni i estyn allan at fwy o bobl yn y gymuned
Rhannu hwn gyda theulu a ffrindiau