Cynllun Hirdymor ar gyfer y Barri
Gweld y tudalen hon yn Saesneg / View this page in English
Bydd y Barri yn elwa o fuddsoddiad o £2 filiwn y flwyddyn am y deng mlynedd nesaf fel rhan o Gynllun Hirdymor ar gyfer Trefi, Llywodraeth y DU.
Bydd y cyllid yn cael ei ryddhau fesul cam, gan ganolbwyntio ar welliannau yn ymwneud â’r themâu allweddol hyn:
• Adfywio, y strydoedd mawr a threftadaeth
• Mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwella diogelwch
• Gwella cysylltedd – cerdded/beicio/trafnidiaeth
Bydd Partneriaeth y Barri newydd yn cael ei sefydlu i gasglu adborth gan drigolion lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i benderfynu ar y blaenoriaethau ar gyfer y cyllid.
Elfen allweddol o osod y cynllun hirdymor ar gyfer y Barri fydd cyfranogiad cymunedol.
Os hoffech chi fod yn rhan o greu gweledigaeth hirdymor y Barri a chyfrannu at drafodaeth ar y blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi dros y deng mlynedd nesaf, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Cofrestrwch i gymryd rhan mewn digwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned, neu i ymuno â'r Bartneriaeth a chael yr wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r cynllun ar gyfer y Barri fynd yn ei flaen.
Cynhelir sesiwn gweithdy gychwynnol a digwyddiad galw heibio yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Memo yn y Barri ddydd Mercher 15 Mai.
Cynhelir y gweithdy rhwng 2:00-4:30pm a bydd y digwyddiad galw heibio cyhoeddus yn cael ei gynnal rhwng 6:00 a 7:30pm. Os hoffech fynychu'r gweithdy, cofrestrwch drwy e-bostio mvelios@valeofglamorgan.gov.uk