Cyngor Ysgol Iolo Morganwg

📅 Dyddiad: 29 Ebrill 2024
📍 Lleoliad: Ysgol Iolo Morganwg (Ysgol Gynradd)
🙋 Math o ymgysylltiad:
Gweithdy gyda Blynyddoedd 4, 5, a 6
Llenwodd y plant daflenni cwestiynau a thrafod syniadau mewn grwpiau.
Cyflwynir y sesiwn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg).
🗣️ Gyda phwy y buom yn siarad: Tua 30 o ddisgyblion.
Hwyluswyr: Swyddogion Creu Lleoedd Cyngor Bro Morgannwg.
🚀 Themâu sy'n dod i'r amlwg:
Mannau Ieuenctid a Theuluoedd: Parciau ar gyfer plant hŷn, chwarae meddal newydd, ardaloedd gymnasteg.
Cyfleusterau: Pwll nofio, mwy o fwytai, gwell canolfan hamdden.
Yr Amgylchedd: Strydoedd glanach, mwy o finiau, ailgylchu, llai o fannau ysmygu.
Cysylltedd: Gwell Wi-Fi a signal ffôn symudol, llwybrau cyfeillgar i feiciau.
Naws Cymunedol: Cadw siopau lleol, ychwanegu fwy o weithgareddau diwylliannol a hanesyddol.
💬 Sylwadau:
“Mwy o leoedd i blant gerdded ar ôl ysgol - parciau a mannau diogel.”
“Mae popeth yn rhy ddrud - siopau a pharcio.”
“Mae pobl yn smygu ac yn fêpio ym mhobman—mae’n ofnadwy.”
“Gwell Wi-Fi a lonydd beicio os gwelwch yn dda!”
“Rydyn ni eisiau mwy o fwytai a llefydd hwyl i fynd a gwneud - parciau trampolîn.”
📢 Crynodeb:
Mae'r plant wrth eu bodd â siopau, caffis, parciau a Gardd Berlysiau’r Bont-faen, ac maen nhw'n mwynhau cael llyfrgell a chanolfan hamdden mor agos. Ond maen nhw'n meddwl bod angen mwy o fannau teuluol, parciau gwell ar gyfer plant hŷn, a gweithgareddau hwyliog.
Maen nhw hefyd eisiau pwll nofio, lonydd beicio, gwell Wi-Fi, a mwy o finiau. Dywedodd llawer fod pethau'n rhy ddrud, ac nid oes digon o ddewis o siopau plant neu fwytai. Mae’n nhw’n poeni am strydoedd glân, llai o smygu/fêpio, a ffyrdd mwy diogel i feicwyr a cherddwyr.
Diolch am eich cyfraniad!
Helpwch ni i estyn allan at fwy o bobl yn y gymuned
Rhannu hwn gyda theulu a ffrindiau