Cwestiynau cyffredin
Beth sy'n perthyn yn fy nghadi gwastraff bwyd?
Gallwch ddarganfod beth sy'n perthyn ac nad yw'n perthyn yn eich cadi gwastraff bwyd yma.
Mae angen cadi gwastraff bwyd newydd arnaf - ble alla i gael un?
Mae bagiau ailgylchu a chynwysyddion ar gael i'w casglu o lyfrgelloedd y Fro a'r Swyddfeydd Dinesig.
Sylwer, nid yw rhai llyfrgelloedd yn stocio'r ystod lawn o eitemau. Gallwch ddod o hyd i fan casglu yma.
Ble alla i gael mwy o leinin gwastraff bwyd ar gyfer fy nghadi cegin?
Y ffordd orau o gasglu leinin cadi yw o'ch llyfrgell leol neu brif ddesg dderbynfa swyddfeydd Dinesig yn y Barri.
Fel arall, pan fyddwch ar fin rhedeg allan o leinin gwastraff bwyd ar gyfer eich cadi cegin, dim ond clymu un o amgylch handlen eich cadi awyr agored ar eich diwrnod casglu, a bydd ein criwiau yn gosod rholyn o fagiau ochr yn ochr ag ef os oes ganddynt unrhyw un mewn stoc ar y cerbyd.