Cwestiynau Cyffredin
- Galw cynyddol am wasanaethau penodol, fel gofal cymdeithasol i oedolion a disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
- Y gost gynyddol o ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion trigolion, oherwydd chwyddiant a ffactorau eraill.
- Prisiau ynni cynyddol
- Chwyddiant
- Cyfraddau llog cynyddol
- Cyflog cynyddol i athrawon a gweithwyr cyngor
- Cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi - mae'r rhain eisoes wedi’u neilltuo i gael eu gwario ar gynlluniau neu brosiectau penodol, fel adeiladu ysgolion newydd.
- Cronfeydd wrth gefn cyffredinol – mae'r rhain ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl ac mae'n ddoeth cadw rhywfaint o gyllid ar gyfer y digwyddiadau hyn.
Beth yw'r diffyg cyllidebol ar gyfer 2024/25?
Bydd y Cyngor yn derbyn ychydig o dan £209 miliwn ar gyfer 2024/25 gan Lywodraeth Cymru. Dyma hanner yr incwm sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau, gyda'r gweddill yn dod o’r Dreth Gyngor, taliadau am rai gwasanaethau a chyfran o'r ardrethi busnes a gesglir ledled Cymru. Gan ystyried cynnydd arfaethedig o 6.7% yn y Dreth Gyngor, mae'r Awdurdod yn dal i wynebu diffyg o £7.8 miliwn yn y gyllideb yn 2024/25.
Pam fod yna ddiffyg cyllidebol?
Mae'r Cyngor yn wynebu diffyg cyllidebol rhagamcanol o £7.8 miliwn – dyma'r bwlch rhwng y gost ragamcanol am ddarparu ein gwasanaethau a swm yr arian sydd ar gael i ni.
Mae nifer o resymau pam fod y Cyngor yn wynebu diffyg cyllidebol, gan gynnwys:
Sut mae'r Cyngor yn bwriadu dod o hyd i £7.8 miliwn ychwanegol?
Mae'r Cyngor yn cynnig gwneud nifer o bethau i gydbwyso ei gyllideb. Mae'r rhain yn cynnwys cynyddu taliadau am rai gwasanaethau yn unol â chwyddiant (6.7%), cynnig cyfle i rai clybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol reoli eu cyfleusterau eu hunain, rhedeg rhai gwasanaethau ar sail adennill costau, a lleihau nifer yr adeiladau y mae'n eu meddiannu er mwyn lleihau costau.
Pam fod y Dreth Gyngor yn cynyddu a gwasanaethau'n cael eu cwtogi?
Mae'r dreth gyngor yn darparu tua 30% o gyllideb gyffredinol y Cyngor. Mae'r Cyngor yn darparu cannoedd o wasanaethau i drigolion ledled Bro Morgannwg ac mae'r galw am wasanaethau penodol a'r gost yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.
Mae 74% o wariant net y Cyngor ar Ysgolion a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae hyn yn golygu mai ychydig iawn o hyblygrwydd sydd gan y Cyngor wrth osod ei gyllideb a rhaid gwneud penderfyniadau anodd ar ddyrannu'r cyllid sy'n weddill i wasanaethau eraill, fel casgliadau ailgylchu a gwastraff.
Pam na allwch chi ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i gwrdd â'r diffyg cyllidebol?
Mae cronfeydd wrth gefn yn arian sydd wedi'i neilltuo i dalu am rywbeth yn y dyfodol neu argyfyngau. Mae'r arian hwn ychydig fel cyfrif cynilo i’r Cyngor. Rhaid i'r Cyngor fod yn ofalus iawn wrth ddefnyddio'r arian hwn - unwaith y mae wedi mynd, mae wedi mynd.
Mae dau brif fath o gronfa wrth gefn gan y cyngor:
Er y gellir defnyddio cronfeydd wrth gefn i ariannu diffyg yn y tymor byr, ni ellir eu defnyddio i ariannu gwariant parhaus (e.e. costau staffio) gan eu bod yn symiau cyllid untro. Ar ôl eu gwario, byddai'r cyngor yn wynebu risg o fethu â thalu os oes angen gwneud unrhyw wariant annisgwyl difrifol.
Mae'r Cyngor yn bwriadu defnyddio £2.5m o gronfeydd wrth gefn yn 2024/25 i helpu i gydbwyso ei gyllideb.
Pe bai'r Cyngor yn dewis ariannu ei holl gostau cynyddol gan ddefnyddio cronfeydd wrth gefn yn hytrach na gwneud cynilion, cynhyrchu incwm ychwanegol, neu gynyddu’r Dreth Gyngor, byddai'n eu gwario i gyd mewn dwy flynedd.
Beth ydych chi'n ei wneud i arbed arian?
Mae gan y Cyngor raglen waith barhaus i ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd a thorri costau. Mae £7.8m o gynilion wedi'u nodi ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cynnwys lleihau ein gofod swyddfa a nifer y staff a gyflogir gan y sefydliad. Ochr yn ochr â hyn, byddwn hefyd yn cyflwyno ffyrdd digidol o weithio sy'n ein galluogi i ddarparu ein gwasanaethau am gost is.