Lansio Cynllun Creu Lleoedd Penarth

📅 Dyddiad: 18 Medi 2025

📍 Lleoliad: Tŷ Turner, Penarth

🗣️ Gyda phwy wnaethon ni siarad: Aelodau o'r gymuned, Dirprwy Faer Penarth, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg

Hwyluswyr: Swyddogion Cyngor Tref Penarth a Chyngor Bro Morganwg

🙋 Math o ymgysylltu: Digwyddiad lansio ffurfiol gyda thrafodaeth gymunedol

Lansiodd Penarth ei Gynllun Creu Lleoedd yn swyddogol, gan nodi gweledigaeth i wneud y dref yn fwy croesawgar, bywiog a chynaliadwy. Roedd y digwyddiad yn nodi dechrau'r cam gweithredu, sy'n dechrau ym mis Hydref pan fydd Bwrdd Tref Penarth yn cyfarfod am y tro cyntaf. Yna, bydd Timau Prosiect yn datblygu mentrau gan ddefnyddio cyfuniad o ffynonellau cyllid.


💬Sylwadau o'r digwyddiad

    • Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Roedd yn wych gweld niferoedd mor dda yn lansiad y Cynllun Creu Lleoedd ym Mhenarth, ac mae'n adlewyrchu angerdd y gymuned dros wneud Penarth yn lle gwych i fyw. "Mae creu lleoedd yn ymwneud â mwy na gwneud gwelliannau ffisegol yn unig - mae'n ymwneud â chreu lleoedd lle mae pobl yn teimlo'n gysylltiedig ac yn cael eu gwerthfawrogi. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd syniadau'r gymuned yn helpu i lunio'r bennod nesaf i'r dref."
    • Dywedodd y Cynghorydd Laura Rochefort, Dirprwy Faer Cyngor Tref Penarth: "Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn bresennol yn lansiad ffurfiol y Cynllun Creu Lleoedd yn Nhŷ Turner. Roedd y digwyddiad yn nodi dechrau cam nesaf Creu Lleoedd ym Mhenarth ac edrychwn ymlaen at weld sut mae'r cynllun hwn yn darparu cyfleoedd i Gyngor y Dref ac i'r nifer o grwpiau cymunedol ym Mhenarth fod yn rhan o'r broses ddatblygu."

Roedd y lansiad yn gadarnhaol ac roedd llawer o bobl yn bresennol, gan dynnu sylw at ymrwymiad cyffredin i wneud Penarth yn dref gynaliadwy a bywiog ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Yma, gallwch ddarllen y cynllun yn llawn Cynllun Creu Lleoedd Penarth(Dolen gyswllt allanol).

Rhannu Lansio Cynllun Creu Lleoedd Penarth ar Facebook Rhannu Lansio Cynllun Creu Lleoedd Penarth Ar Twitter Rhannu Lansio Cynllun Creu Lleoedd Penarth Ar LinkedIn E-bost Lansio Cynllun Creu Lleoedd Penarth dolen
<span class="translation_missing" title="translation missing: cy.projects.blog_posts.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>