Gŵyl Chwaraeon Cae Cwrt y Vil















📅 Dyddiad: 30 Gorffennaf 2024

📍 Lleoliad Ymgysylltu: Cae Cwrt y Vil, Penarth

🗣️ Gyda phwy wnaethon ni siarad: Roedd tua 30 o bobl ifanc yn bresennol yn yr ŵyl chwaraeon, ynghyd ag ambell i riant a staff y gwasanaeth lles

Hwyluswyr: Swyddogion Creu Lleoedd Cyngor Bro Morgannwg a Thîm Gwasanaeth Ieuenctid y Fro

🙋Math o ymgysylltiad:
Sgyrsiau un i un anffurfiol gan ddefnyddio holiaduron yn ystod yr ŵyl chwaraeon i gasglu barn ar yr hyn y mae pobl ifanc yn ei hoffi am Benarth, beth y gellid ei wella, a blaenoriaethau’r dyfodol.

🚀Themâu sy'n dod i'r amlwg

    • Parciau a Mannau Gwyrdd: Parciau a'r pier oedd y nodweddion mwyaf gwerthfawr; soniwyd am Cosmeston a Pharc Belle Vue hefyd.
    • Cyfleusterau Ieuenctid: Galw cryf am fwy o AChA, parciau sglefrio, a chlybiau ieuenctid (gan gynnwys darpariaeth ADY).
    • Seilwaith a Chyfleusterau: Angen mwy o doiledau cyhoeddus, gorsafoedd ail-lenwi dŵr, ac opsiynau bwyd fforddiadwy.
    • Gweithgareddau a Digwyddiadau: Ceisiadau am ddigwyddiadau cymunedol, sinema, chwaraeon dŵr, parc dŵr, pad sblasio a champfeydd awyr agored.
    • Diogelwch a Chynnal a Chadw: Pryderon am Barc Cogan a galwadau am well cynnal a chadw parciau presennol.
    • Canol y Dref a Glan y Môr: Awgrymiadau am ragor o adloniant ac arlwyo ar y pier; ystyrir nad yw glan y môr yn cael ei ddefnyddio’n llawn.

💬Sylwadau

"Mwy o doiledau cyhoeddus a ffynhonnau dŵr - yn enwedig mewn parciau."

"Parc Cogan – angen ei ddiweddaru."

"Mae angen clwb ieuenctid gyda gemau fideo, cerddoriaeth ac adloniant."

"Mae angen rhywbeth i lawr ar lan y môr - sinema a mwy o le arlwyo ar y pier."

"Mae Parc Coffa Ynys Angharad, Pontypridd yn enghraifft dda - gwifren wib a thrampolinau."

"Mae pethau'n ddrud i blant 11 oed ac yn hŷn - does dim llawer iddyn nhw ei wneud."

📢 Crynodeb
Mae pobl ifanc yn gwerthfawrogi parciau, y pier a mannau gwyrdd Penarth ond yn teimlo bod diffyg cyfleusterau a gweithgareddau i blant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau. Mae blaenoriaethau allweddol yn cynnwys mwy o AChA, parciau sglefrio, clybiau ieuenctid, a chynnal a chadw parciau’n well. Tynnwyd sylw at welliannau seilwaith fel toiledau cyhoeddus, gorsafoedd ail-lenwi dŵr, ac opsiynau bwyd fforddiadwy. Mae diddordeb hefyd mewn gwneud glan y môr yn fwy bywiog gydag adloniant a chynigion arlwyo amgen. Ar y cyfan, mae adborth yn dangos awydd am fannau cynhwysol, wedi'u cynnal yn dda a gweithgareddau fforddiadwy i gadw diddordeb pobl ifanc yn lleol.

Rhannu Gŵyl Chwaraeon Cae Cwrt y Vil ar Facebook Rhannu Gŵyl Chwaraeon Cae Cwrt y Vil Ar Twitter Rhannu Gŵyl Chwaraeon Cae Cwrt y Vil Ar LinkedIn E-bost Gŵyl Chwaraeon Cae Cwrt y Vil dolen
<span class="translation_missing" title="translation missing: cy.projects.blog_posts.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>