Glanhau lôn gefn St Paul a Graffiti Celf Stryd - Prosiect Peilot


📅 Dyddiad: 10-26 Mawrth 2025
📍 Lleoliad: Lonydd cefn rhwng fflatiau St Paul’s Avenue, Hazel Road, a Lavernock Road, Penarth
🗣️ Gyda phwy wnaethon ni siarad: Trigolion lleol, disgyblion, rhieni/gofalwyr Ysgol Stanwell, aelodau o'r gymuned.
Hwyluswyr: Swyddogion Creu Lleoedd Cyngor Bro Morgannwg, Tîm Ieuenctid y Fro, Hurts So Good (artistiaid graffiti lleol)
🙋 Math o ymgysylltu: Casglu sbwriel, sgyrsiau ar y safle, arolygon, gweithdai celf

Roedd angen gwella'r lonydd cefn ger St Paul's Avenue, ac roeddent yn aml yn cael eu defnyddio fel llwybrau byr i ysgolion, siopau, a meddygfeydd. Dywedodd pobl eu bod yn teimlo'n anhapus am y sbwriel, ac yn osgoi'r llwybr ar ôl iddi dywyllu.
🚀Beth wnaethom ni

    • Trefnwyd sesiwn casglu sbwriel ar 20 Mawrth gyda chymorth yr Orsaf Dân a Thîm Ieuenctid y Fro, a Swyddogion Creu Lleoedd y Fro.
    • Siaradwyd â thrigolion yn ystod y gweithgaredd am bryderon sbwriel a diogelwch.
    • Cynhaliwyd arolygon dros bythefnos i ddeall sut mae pobl yn defnyddio'r lôn gefn a sut maen nhw'n teimlo amdano.
    • Cyflwynwyd gweithdai celf gan Hurts So Good(Dolen gyswllt allanol) ar gyfer disgyblion Blwyddyn 8 Ysgol Stanwell.
    • Cymerodd disgyblion Stanwell ran yn y Graffiti Celf Stryd yn y lôn gefn a gorffennwyd y sesiwn gan Hurts So Good.

💬Sylwadau

"Roedd faint o sbwriel oedd yno’n dorcalonnus."

"Rydyn ni'n defnyddio'r llwybr hwn bob dydd ar gyfer mynd i’r ysgol - mae angen iddo edrych yn well."

"Mae'r gwaith celf newydd yn y lôn gefn yn gwneud i mi deimlo ei bod wedi cael gofal."

📢Crynodeb

Diolch yn fawr iawn i bawb a oedd ynghlwm â thrawsnewid y lôn gefn rhwng St Paul's Avenue, Hazel Road, a Lavernock Road!


Arweiniwyd y prosiect gan ein Tîm Creu Lleoedd Cymunedau Creadigol(Dolen gyswllt allanol) ar ôl i adborth gan drigolion dynnu sylw at bryderon ynghylch diogelwch ar ôl iddi dywyllu, ac ymddangosiad cyffredinol yr ardal. Gwnaethant ddod â phartneriaid lleol a phobl ifanc ynghyd i fywiogi'r gofod gyda murluniau trawiadol wedi'u hysbrydoli gan Lynnoedd Cosmeston, yr arfordir, a bywyd gwyllt.




Diolch yn arbennig i fyfyrwyr talentog Blwyddyn 8 o Ysgol Stanwell a'r artistiaid graffiti Kyle a Ceri o Hurts So Good(Dolen gyswllt allanol) am eu gwaith celf anhygoel.

Darllen mwy: https://www.valeofglamorgan.gov.uk/.../Lôn Gefn-Penarth... (Dolen gyswllt allanol)

Gallwch weld negeseuon Facebook o bob cam o'r prosiect: Lluniau llawn o’r gwaith celf, Artist ar waith a’r Ymgyrch Lanhau

Mae’r adborth ers y gwaith wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae trigolion wrth eu bodd â'r edrychiad newydd a'r neges: "Cadwch eich lôn yn lân ac Nid oes rhaid i chi fod yn wych i ddechrau ond mae'n rhaid i chi ddechrau i fod yn wych!"


Rhannu Glanhau lôn gefn St Paul a Graffiti Celf Stryd - Prosiect Peilot ar Facebook Rhannu Glanhau lôn gefn St Paul a Graffiti Celf Stryd - Prosiect Peilot Ar Twitter Rhannu Glanhau lôn gefn St Paul a Graffiti Celf Stryd - Prosiect Peilot Ar LinkedIn E-bost Glanhau lôn gefn St Paul a Graffiti Celf Stryd - Prosiect Peilot dolen
<span class="translation_missing" title="translation missing: cy.projects.blog_posts.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>