Sut cafodd y dyluniadau eu cynhyrchu?

    Cynhyrchwyd y ddau opsiwn gan artistiaid stryd o'r Barri Hurts So Good ac yn unol â briff dylunio a ddatblygwyd yn dilyn ymgysylltu â'r gymuned leol yn 2023.


    Mae cefndir a chynllun lliw y ddau gynllun yr un fath.
    Saif y parc sgrialu o fewn Cold Knap sy'n Barc a Gardd Hanesyddol Cofrestredig Cadw. Mae hefyd o fewn Ardal Cadwraeth Forol y Barri.


    Dewiswyd y dyluniadau a'r cynllun lliw mewn ymgynghoriad â Cadw i sicrhau na fydd y murlun terfynol yn edrych allan o le nac yn tynnu oddi ar gymeriad y parc.


    Maent yn cynnwys golygfeydd lleol fel y draphont gerllaw a nodweddion hanesyddol eraill y parc.


    Mae un dyluniad yn cynnwys silwét o sglefriwr mewn-lein lleol Richard Taylor, yn ei gof y cafodd y parc sgrialu ei adeiladu gyntaf. Mae'r llall yn defnyddio delweddau generig yn unig.


    Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn bydd y cynllun terfynol yn cael ei gymeradwyo gan adran gynllunio'r Cyngor, gyda chyngor a sylwadau gan Cadw, er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â gweddill y parc.