Hac Cymunedol

Rhannu Hac Cymunedol ar Facebook Rhannu Hac Cymunedol Ar Twitter Rhannu Hac Cymunedol Ar LinkedIn E-bost Hac Cymunedol dolen

Gweld y tudalen hwn yn Saesneg / View this page in English

Cyd-ddylunio atebion newydd i'r rhai sy'n rhannu problemau, a dysgu mwy am y Gronfa Ffyniant Gyffredin ym Mro Morgannwg.

Bydd y digwyddiadau hyn yn dod â phobl at ei gilydd i ddatblygu syniadau newydd i fynd i'r afael ag effeithiau'r argyfwng Costau Byw a heriau cymdeithasol eraill yr ydym i gyd yn poeni amdanynt. Does dim angen i chi gael unrhyw brofiad o fod yn gyfrifol am brosiect neu fenter gymdeithasol newydd, dim ond angerdd i wneud gwahaniaeth a'r ysgogiad i weithio gydag eraill i ddechrau prosiect newydd o'r dechrau.

Yn ystod y digwyddiad, byddwch yn dysgu hanfodion sefydlu menter gynaliadwy neu brosiect, gan gynnwys adeiladu ar eich cryfderau a'r cryfderau yn eich cymuned, creu syniadau newydd, gwneud cais am gyllid, creu incwm, gweithio gyda gwahanol grwpiau, a sut i brofi eich syniadau. Byddwch hefyd yn dod i wybod am y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a chronfeydd eraill, a sut y gallwch wneud cais am gyllid ar gyfer eich syniad.

Penllanw'r digwyddiad fydd digwyddiad cyflwyno terfynol gerbron panel dyfarnu. Nid cystadleuaeth yw hon, ond os ydych chi o ddifrif am symud eich syniad ymlaen, mae cymorth busnes ar gael i unigolion, grwpiau cymunedol, busnesau newydd llwyfan syniadau a busnesau cymdeithasol sefydledig.

Ymunwch â ni am un diwrnod llawn, neu rhannwch eich amser trwy fynychu dau ddigwyddiad gyda'r nos yn lle.

Ar gyfer pwy mae e?

Mae'r digwyddiadau yma ar gyfer pawb yn y gymuned sydd eisiau gwneud gwahaniaeth! Dewch gyda meddwl agored, bod yn chwaraewr tîm, a gweithio gydag eraill i feddwl am syniadau o’r newydd. Cofrestrwch gyda ffrindiau, cymdogion, eich grŵp cymunedol neu sefydliad, neu dewch draw i ymuno â thîm.

Meysydd ar gyfer syniadau newydd

Byddwn yn chwilio am syniadau i fynd i'r afael â’r:

• Argyfwng costau byw

• Pocedi o anghydraddoldeb parhaus

• Cyfleoedd economaidd

• Iechyd a lles

• Lleihau allyriadau a newid i Sero Net

• Sectorau a swyddi o bwys lleol

• Ystyried cyd-destun y boblogaeth wledig

Byddwn am i chi gynnig syniadau newydd ar gyfer prosiectau, partneriaethau, a mentrau cymdeithasol i fynd i'r afael â'r materion hyn. Ond os oes yna fater cymdeithasol gwahanol y mae gennych chi syniadau ar eu cyfer yna dywedwch wrthym amdano. Gallwch ymuno fel tîm neu ymuno ag eraill gyda'r un diddordeb.

Pam mae'n cael ei alw'n Hac Cymunedol?

Mae'r "Hac" yn ymwneud â bod yn ddigwyddiad undydd i gynnig syniadau newydd ac mae'r rhan "Caredigrwydd" yn ymwneud â gwneud daioni yn y gymuned drwy brosiectau cynaliadwy.

Beth yw’r gost?

Mae’r digwyddiad am ddim. Bydd te a choffi drwy gydol y dydd a darperir cinio.

Oes rhaid i mi fynychu drwy'r dydd?

Mewn gair, oes. Byddwch yn rhan o dîm sy'n cynnig syniadau newydd ar gyfer mentrau newydd, prosiectau, a phartneriaethau. Bydd eich tîm yn cydweithio drwy gydol y dydd ar syniadau newydd.

Sut ydw i’n cymryd rhan?

Cofrestrwch ar y dudalen hon. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch Martin Downes yn martin.downes@cwmpas.coop gyda 'Hac Cymunedol Bro Morgannwg' fel y pwnc.

Pwy sy'n ei redeg?

Hwylusir y digwyddiad gan Cwmpas mewn partneriaeth â Thîm Adfywio Cymunedol Cyngor Bro Morgannwg.

Cofrestrwch am ddim nawr!

Archebwch Yma