Hac Busnes
Gweld y tudalen hwn yn Saesneg / View this page in English
Cyd-ddylunio atebion newydd i'r rhai sy'n rhannu problemau, a dysgu mwy am y Gronfa Ffyniant Gyffredin ym Mro Morgannwg.
Bydd y digwyddiadau hyn yn dod â busnesau at ei gilydd i ddatblygu syniadau newydd i fynd i'r afael ag effeithiau'r argyfwng Costau Byw a heriau eraill yr ydym i gyd yn poeni amdanynt. Bydd busnesau ar draws y Fro yn dod at ei gilydd i gydweithio ar syniadau, prosiectau, a chyfleoedd newydd i fuddsoddi wneud gwahaniaeth ar draws y sir.
Ym mhob digwyddiad, byddwn ni'n canolbwyntio ar weithio gyda'n gilydd i sefydlu cydweithrediadau, prosiectau, rhwydweithiau neu ddigwyddiadau cynaliadwy. Bydd hyn yn adeiladu ar ein cryfderau a'r cryfderau yn ein cymuned fusnes, gan ddatblygu syniadau arloesol, cyrchu buddsoddiad, cynhyrchu ffrydiau incwm newydd, gweithio gyda gwahanol grwpiau a sut i brofi ein syniadau. Byddwch hefyd yn dod i wybod am y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a chronfeydd eraill, a sut y gallwch wneud cais am fuddsoddiad i’ch syniadau. Bydd cyfleoedd i rwydweithio â busnesau eraill yn ystod pob digwyddiad.
Penllanw'r digwyddiad fydd digwyddiad cyflwyno terfynol gerbron panel dyfarnu. Nid cystadleuaeth yw hon, ond os ydych o ddifrif am fwrw ymlaen â'ch syniad, mae cymorth busnes ar gael i unigolion, busnesau newydd, a busnesau sefydledig.
Ymunwch â ni am un diwrnod llawn, neu rhannwch eich amser trwy fynychu dau ddigwyddiad gyda'r nos yn lle.
Ar gyfer pwy mae e?
Mae'r digwyddiadau yma ar gyfer pawb yn y gymuned sydd eisiau gwneud gwahaniaeth! Dewch gyda meddwl agored, bod yn chwaraewr tîm, a gweithio gydag eraill i feddwl am syniadau o’r newydd. Bydd digwyddiadau Hac Busnes ar gyfer busnesau o bob cam a maint a digwyddiadau â ffocws ar gyfer y sectorau Twristiaeth a Manwerthu.
Meysydd ar gyfer syniadau newydd
Byddwn yn chwilio am syniadau i fynd i'r afael â’r:
• Argyfwng costau byw
• Pocedi o anghydraddoldeb parhaus
• Cyfleoedd economaidd
• Ynni a Chynaliadwyedd
• Lleihau allyriadau a newid i Sero Net
• Sectorau a swyddi o bwys lleol
• Ystyried cyd-destun y boblogaeth wledig
Byddwn am i chi gynnig syniadau newydd ar gyfer prosiectau, partneriaethau, a mentrau cymdeithasol i fynd i'r afael â'r materion hyn. Gallwch ymuno fel tîm neu ymuno ag eraill gyda'r un diddordeb.
Pam mae'n cael ei alw'n Hac Busnes?
Mae'r "Hac" yn ddigwyddiad undydd i gynnig syniadau newydd ac mae'r rhan "Busnes" yn ymwneud â dod â’r gymuned fusnes at ei gilydd i wella pethau i bawb yn y Fro.
Beth yw’r gost?
Mae’r digwyddiad am ddim. Bydd te a choffi drwy gydol y dydd a darperir cinio.
Oes rhaid i mi fynychu drwy'r dydd?
Mewn gair, oes. Byddwch yn rhan o dîm sy'n cynnig syniadau newydd ar gyfer mentrau newydd, prosiectau, a phartneriaethau. Bydd eich tîm yn cydweithio drwy gydol y dydd ar syniadau newydd.
Sut ydw i’n cymryd rhan?
Cofrestrwch ar y dudalen hon. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch Martin Downes yn martin.downes@cwmpas.coop gyda 'Hac Busnes Bro Morgannwg' fel y pwnc.
Pwy sy'n ei redeg?
Bydd Cwmpas yn hwyluso'r achlysur mewn partneriaeth â Thîm Economi a Thwristiaeth Cyngor Bro Morgannwg.
Cofrestrwch am ddim nawr!