Pam mae'r Cyngor yn gwneud gwelliannau i safleoedd hamdden Colcot a Buttrills?

    Mae'r cyfleusterau newid presennol yng Nghanolfan Chwaraeon y Barri yng Ngholcot angen eu trawsnewid ar frys gan eu bod wedi mynd i gyflwr gwael ac yn methu ag ateb gofynion y defnyddwyr. Mae'r hen gae gwair artiffisial (ATP) yng Ngholcot hefyd yn ddi-angen bellach yn sgil gwelliannau diweddar yn ysgolion uwchradd y Barri gerllaw. O ystyried bod yr ystafelloedd newid presennol yng nghanolfan chwaraeon  Colcot hefyd yn darparu ar gyfer caeau Buttrills, gryn bellter i ffwrdd, mae cyfle yn bodoli i ystyried gwelliannau i’r cyfleusterau newid ar safle Buttrills yn ogystal â  chyfle i greu uwchgynllun ar gyfer y rhan o safle Colcot a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer parcio ceir, yr ystafelloedd newid a’r cae gwair artiffisial.  Mae'r Cyngor wedi nodi cyfle am gyllid i fuddsoddi yn y cyfleusterau hyn, a chynyddu cyfleoedd gweithgarwch corfforol, yn enwedig i fenywod a merched. Heb y cyfle ariannu hwn ni fyddai'r Cyngor mewn sefyllfa i uwchraddio'r ganolfan chwaraeon o fewn y cyllidebau presennol.

    Beth yw'r cynlluniau arfaethedig ar gyfer safleoedd hamdden Colcot a Buttrills?

    Ar safle Buttrills, bydd pafiliwn chwaraeon newydd yn cael ei adeiladu ger y ganolfan gymunedol bresennol, gyda neuadd focsio bwrpasol, cyfleusterau newid a lle i'r gymuned.  Bydd mwy o leoedd parcio, gan gynnwys cyfleusterau gwefru cerbydau trydan. 

    Bydd adeilad presennol Canolfan Chwaraeon Colcot, sydd wedi dyddio, ac sydd ar hyn o bryd yn gartref i'r ystafelloedd newid, y cae gwair artiffisial a'r maes parcio yn cael eu disodli gan dai Cyngor newydd sydd mawr eu hangen, ac ardal chwarae newydd, ardal ar gyfer reidio beiciau, a elwir yn drac pwmp beicio.  Byddai’r neuadd chwaraeon mwy o faint, y cae pêl-droed 3G a’r mannau agored gwyrdd yn y safle hwn yn cael eu cadw.

    Beth fydd yn newid ar safle Buttrills?

    O dan y cynigion, bydd ystafelloedd newid newydd (ar gyfer o leiaf 8 a swyddogion) yn cael eu hadeiladu wrth ymyl caeau chwaraeon presennol Buttrills.  Byddai’r ystafelloedd newid hyn, mewn pafiliwn newydd, wedi'u cynllunio i safonau Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac yn cydymffurfio'n llawn â'r gofynion ar gyfer pêl-droed menywod a merched, y gweithgaredd chwaraeon sy'n tyfu gyflymaf yn y Fro.  

    Byddai'r ystafelloedd newid newydd hefyd yn golygu na fyddai'n rhaid i ddefnyddwyr gerdded ar draws Colcot Road bellach i gael mynediad i gaeau Buttrills, mater sydd wedi’i nodi fel pryder diogelwch.   Bydd maes parcio newydd hefyd yn cael ei ddarparu gyda'r maes parcio presennol yn cael ei ymestyn a mannau gwefru Cerbydau Trydan wedi'u gosod.

    Beth fydd yn newid ar safle Colcot?

    Gyda chyfleusterau newid a hamdden newydd a gwell ar safle Buttrills gerllaw, bydd adeilad Canolfan Chwaraeon Colcot, sydd wedi dyddio ac sy'n gartref i'r ystafelloedd newid ar hyn o bryd, yn ddi-angen. 

    Cynigir y bydd rhan segur hen safle Colcot yn cael ei defnyddio i darparu 52 o gartrefi newydd, gydag o leiaf 40% yn dai fforddiadwy, gan helpu i ateb y galw am dai yn Y Barri.

    Bydd y safle hefyd yn cynnwys cyfleusterau cymunedol newydd gan gynnwys maes chwarae. 

    Byddai'r neuadd fwy o faint ar safle Colcot a'r Caeau Gwair Artiffisial bach yn parhau i gael eu gweithredu fel rhan o'r contract rheoli Hamdden rhwng y Cyngor a Legacy/Parkwood Leisure. 

    Yn dilyn llwyddiant y Knap Skate newydd, mae'r cynigion hefyd yn cynnwys gosod trac beicio awyr agored, a elwir yn drac pwmp (mae'n debygol y bydd cyllid gan Chwaraeon Cymru ar gael ar gyfer y math hwn o gyfleuster). Byddai'r trac pwmp ac am ddim i'w ddefnyddio ac yn rhoi cyfle i weithgaredd corfforol ar gyfer gwahanol grwpiau oedran. 

    Byddai maes parcio newydd hefyd yn cael ei ddarparu ar safle Colcot i wasanaethu'r neuadd chwaraeon sydd ar ôl a chyfleusterau eraill.

    Fydd y cyfleusterau ar gael yn ystod y gwaith gwella?

    Bydd caeau chwarae Buttrills yn gallu parhau i weithredu tra bydd y cyfleusterau newydd yn cael eu hadeiladu. 

    Dim ond pan fydd y bloc ystafelloedd newid newydd yn Buttrills yn weithredol y byddai'r cyfleusterau presennol ar safle Colcot ond yn cael eu dymchwel.

    Mae cyfleusterau chwaraeon ychwanegol y mae'r Cyngor wedi buddsoddi ynddynt yn ddiweddar ar gael 'ir gymuned  yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg (cae 3G), Ysgol Uwchradd Whitmore (cae 3G) ac Ysgol Uwchradd Pencoedtre (cae 3G).

    Sut gaiff y project ei ariannu?

    Rydym wedi gwneud cais am grant o £500,000 gan Sefydliad Pêl-droed Cymru. 

    Byddai angen cyllid ychwanegol i gyfateb i'r grant hwn a byddai'n dod o ffynonellau eraill, gan gynnwys y datblygiad tai arfaethedig ar safle adeilad presennol y Ganolfan Chwaraeon a'r Cae Gwair Artiffisial segur (ni fydd unrhyw ran o safleoedd Colcot a Buttrills a ddefnyddiwyd ar gyfer chwaraeon ffurfiol yn ystod y 5 mlynedd diwethaf yn cael ei defnyddio ar gyfer tai).

    Pa mor hir fydd ei angen i gwblhau’r project?

    Y gobaith yw y byddai'r pafiliwn a'r ystafelloedd newid newydd ar safle Buttrills wedi'u cwblhau erbyn Medi/Hydref 2025, gyda gwaith yn y Colcot yn dilyn ar ôl cwblhau Pafiliwn Buttrills. Mae'r holl gynigion hyn yn amodol ar gymeradwyaeth ariannol a chaniatâd cynllunio.

    Pam nad yw Canolfan Chwaraeon bresennol Colcot yn cael ei huwchraddio?

    Mae'r adeilad hwn wedi bod yn destun pryder ers meitin.  Mae'r adeilad mewn cyflwr gwael iawn ac ar hyn o bryd mae'n gweithredu gydag ystafell gyfleusterau gludadwy. Mae'r adeilad y tu hwnt i'w oes disgwyliedig, nid yw'n ateb gofynion cwsmeriaid, mae o ddyluniad gwael ac, felly, nid yw'n bosibl i wella i safonau rhesymol. Nid yw'r adeilad yn bodloni unrhyw un o ofynion presennol Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Yn ogystal, ni all yr adeilad presennol fodloni anghenion pêl-droed menywod a merched sy'n cael ei gydnabod ar hyn o bryd fel y gweithgaredd corfforol sy'n tyfu gyflymaf ym Mro Morgannwg.

    Beth fydd effaith y datblygiadau arfaethedig ar draffig lleol?

    Mae'r Cyngor yn ymwybodol na all y Ganolfan Chwaraeon bresennol ymdopi â maint y traffig ar adegau prysur. Trwy rannu'r gwasanaeth rhwng y ddau safle mae disgwyl y bydd y sefyllfa hon yn gwella. Bydd yr agwedd hon hefyd yn cael ei hystyried pan wneir cais am ganiatâd cynllunio ffurfiol.

    Beth fydd yr effaith ar wasanaethau lleol?

    Bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses o wneud cais cynllunio.

    Faint o'r datblygiad fydd yn cael ei ddyrannu i dai cymdeithasol?

    O leiaf 40% ond bydd pob cynnig, gan gynnwys tai, yn amodol ar argaeledd cyllid a chaniatâd cynllunio.

    Sut fydd y cyfleusterau newydd yn cael eu rheoli?

    Bydd trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal gyda Chynghrair Bêl-droed Bro Morgannwg ynglŷn â rheoli'r ystafelloedd newid newydd gan y gallai fod cyfle i wneud arbedion, fel gydag enghreifftiau eraill o drosglwyddo asedau. 

    Bydd canolfan chwaraeon Colcot yn parhau ar agor tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo yn Buttrills.

    Beth fydd yn digwydd i'r Cylch Meithrin sy'n gweithredu o hen Neuadd Chwaraeon Colcot?

    Mae'r Cylch Meithrin sy'n cael ei gynnal yn y neuadd chwaraeon yn ystod y tymor ar hyn o bryd wedi cael rhybudd y bydd eu gwaith ar y safle yn dod i ben ym mis Hydref 2025 os caiff y cynigion eu cymeradwyo. Mae swyddogion mewn trafodaethau gyda’r Cylch Meithrin ac yn eu helpu i ddod o hyd i safle arall.

    Sut gall preswylwyr ddweud eu dweud ynghylch y cynigion?

    Gwahoddir preswylwyr i fynychu digwyddiad galw heibio yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot, Colcot Road, CF62 8UJ, ar 18 Ebrill 2024, 4 – 7pm.   Bydd y digwyddiad yn gyfle i edrych ar gynlluniau’r safle newydd a chlywed mwy am y cynigion.

    Bydd swyddogion o dimau Gwasanaethau Cymdogaeth, Datblygu Chwaraeon a Thai y Cyngor yno i ateb eich cwestiynau a bydd cyfle i adael sylwadau neu adborth ar y cynigion. 

    Gall y rhai sy'n methu â mynychu'r sesiwn galw heibio hefyd ofyn cwestiynau i'r tîm ar-lein.

    Yn nes ymlaen yn y project, bydd cyfleoedd hefyd i drigolion wneud sylwadau yn ystod y broses gwneud cais cynllunio.

    Pa ddarpariaeth parcio fydd ar gael ar y ddau safle?

    Bydd mwy o ddarpariaeth parcio ar safle Buttrills, fel y nodir ar y cynlluniauBydd angen darpariaeth parcio hefyd ar safle Colcot i wasanaethu'r caeau chwaraeon a'r neuadd chwaraeon a fyddai'n parhau.

    Bu problemau yn ymwneud â llifogydd ger safle Buttrills yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sut y bydd hyn yn cael sylw?

    Bydd hyn yn cael sylw yn ystod y cam caniatâd cynllunio, ond mae gofynion cynllunio yn gadarn o ran systemau draenio cynaliadwy.