Cwestiynau cyffredin
Beth alla i ei roi yn fy bag gwastraff gardd?
Gwiriwch beth allwch ac na allwch ei roi yn eich bag gwastraff gardd yma.
Sut mae cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd?
Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth tanysgrifio casglu gwastraff gardd yma.
Pa mor aml mae gwastraff gardd yn cael ei gasglu?
Os byddwch yn cofrestru ar gyfer tanysgrifiad blynyddol, byddwn yn casglu eich gwastraff gardd bob pythefnos rhwng 03 Mawrth 2025 a 28 Tachwedd 2025.
Mae angen bag gwastraff gardd newydd arnaf - ble alla i gael un?
Mae bagiau gwastraff gardd ar gael i'w prynu o lyfrgelloedd y Fro a'r Swyddfeydd Dinesig am £2.50 yr un.
Sylwer, nid yw rhai llyfrgelloedd yn stocio'r ystod lawn o eitemau. Gallwch ddod o hyd i fan casglu yma.
Dydw i ddim eisiau talu am gasgliad gwastraff gardd - beth arall alla i ei wneud?
Os byddai'n well gennych beidio â thanysgrifio i'n gwasanaeth casglu gwastraff gardd, gallwch barhau i fynd â'ch gwastraff gardd i'ch canolfan ailgylchu gwastraff cartref leol am ddim neu ei gompostio gartref.