Eich Esplanad Chi

Rhannu Eich Esplanad Chi ar Facebook Rhannu Eich Esplanad Chi Ar Twitter Rhannu Eich Esplanad Chi Ar LinkedIn E-bost Eich Esplanad Chi dolen

Gweld y dudalen hon yn Saesneg

Mae mwy na £500,000 wedi’i fuddsoddi ym Mhafiliwn Pier Penarth a’r Esplanade yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae Cyngor Bro Morgannwg bellach yn siarad â thrigolion lleol, busnesau, a grwpiau cymunedol am sut i wella glan môr Penarth a’r cyffiniau ymhellach.

Bydd rhaglen o ymgysylltu a thrafod yn dechrau ym mis Awst gyda chyfres o arolygon barn ar-lein a’r cyfle i bobl rannu eu meddyliau ar-lein a defnyddio bwrdd syniadau ym Mhafiliwn Pier Penarth. Parhaodd y gwaith hwn i fis Medi. Lansiwyd fforwm ar-lein i drafod hefyd. Mae'r rhain yn parhau i fod ar agor a gallwch gael mynediad iddynt ar y dudalen hon. Mae'r ymatebion i'r ymarferion hyn wedi'u hystyried a gynhaliwyd ymarfer arolwg mwy ffurfiol trwy gydol mis Hydref.

Mae'r holl wybodaeth a gasglwyd hyd yma wedi cael ei dadansoddi a nawr hoffem glywed mwy am y materion a godwyd gan amlaf, megis parcio, seddi a pedestreiddio.

Cynhelir sesiynau galw heibio cyhoeddus ar:

• Dydd Iau 24 Tachwedd, 2:00pm - 7:00pm, West House, Stanwell Road.

• Dydd Mawrth 29 Tachwedd, 12:30pm - 4:30pm, Pafiliwn Pier Penarth

Galwch heibio unrhyw bryd i rannu eich barn.

Bydd trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal gyda thrigolion a masnachwyr lleol, sydd wedi eu gwahodd i fynychu sesiynau wedi'u teilwra.

  • Complete Form