Strategaeth Ddigidol

Rhannu Strategaeth Ddigidol ar Facebook Rhannu Strategaeth Ddigidol Ar Twitter Rhannu Strategaeth Ddigidol Ar LinkedIn E-bost Strategaeth Ddigidol dolen

Gweler y tudalen hon yn Saesneg / View this page in English

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ymgynghori ar ei Strategaeth Ddigidol ddrafft ar gyfer 2023-28.

Mae ein strategaeth ddigidol yn amlinellu sut y byddwn yn trawsnewid ein diwylliant digidol er mwyn bodloni gofynion a disgwyliadau trigolion, cydweithwyr a phartneriaid.

Mae'r Strategaeth Ddigidol wedi’i seilio ar bedair thema allweddol sy'n sail i'n gweledigaeth ac yn cyd-fynd â chynlluniau a strategaethau presennol y Cyngor. Nodwyd y themâu hyn o adolygiad o'n sefyllfa ddigidol bresennol a nododd ein dull digidol cyfredol, meysydd cryfder a chyfleoedd i wella.

Cefnogir pob thema gan ddau ymrwymiad digidol a ddefnyddiwyd i fframio'r camau cysylltiedig a darparu dadansoddiad manwl o bwyslais pob thema.

Hoffem glywed oddi wrthych, dywedwch wrthym beth yw eich barn am y Strategaeth Ddigidol ddrafft trwy gwblhau ein harolwg. Gallwch ddarllen y ddogfen yn llawn drwy'r ddolen dogfennau isod cyn cwblhau'r arolwg.

Gallwch hefyd rannu eich barn gyda ni drwy e-bostio consultation@valeofglamorgan.gov.uk neu drwy ffonio 01446 700111.

  • CLOSED: This survey has concluded.
    Take Survey
    Rhannu Strategaeth Ddigidol Drafft ar Facebook Rhannu Strategaeth Ddigidol Drafft Ar Twitter Rhannu Strategaeth Ddigidol Drafft Ar LinkedIn E-bost Strategaeth Ddigidol Drafft dolen