Cynllun Lles 2023-28

Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon
Our Vale PSB logo

View this page in English

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Bro Morgannwg yn dod ag uwch-arweinwyr ynghyd o sefydliadau'r sector cyhoeddus a’r trydydd sector ar draws Bro Morgannwg i weithio mewn partneriaeth dros ddyfodol gwell.

Mae gan y BGC gyfrifoldeb i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Llesiant i'r Fro, sy'n cynnwys ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer y Fro a'n blaenoriaethau ar gyfer gwella llesiant lleol.

Mae’r BGC yn ymgynghori ar ei ail Gynllun Llesiant a gyhoeddir ym mis Mai 2023. Mae'r Cynllun Llesiant newydd yn nodi tri Amcan Llesiant newydd a'r meysydd blaenoriaeth y bydd y BGC yn canolbwyntio arnynt dros y blynyddoedd nesaf.

Rydym am wybod beth ydych chi'n ei feddwl o'n Cynllun newydd, sydd wedi cael ei lywio gan Golwg ar Fro Morgannwg - Asesiad o Les y Presennol a’r Dyfodol a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, a thrwy sgyrsiau a gawsom gyda’n cymunedau dros yr haf.

Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd partneriaid yn gweithio gyda’i gilydd a gyda'r gymuned er mwyn gwella llesiant lleol. Gan fod hon yn ddogfen mor bwysig mae partneriaid y BGC yn awyddus i glywed gan gynifer o bobl â phosib am y Cynllun drafft a chael adborth ar ein blaenoriaethau.

Gallwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth sy'n ymwneud â'r Cynllun yn y rhestr dogfennau allweddol.

Rhannwch eich barn gyda ni trwy gwblhau'r arolwg isod neu drwy anfon e-bost atom yn ValePSB@valeofglamorgan.gov.uk erbyn 29 Ionawr 2023.