Cynllun Cyflawni Blynyddol 2023-24

Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon

See this page in English

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.

Mae’r Cynllun Cyflawni Blynyddol (CCB) drafft yn rhoi manylion y camau gweithredu i’w rhoi ar waith yn 2022-23 i wella lles lleol ac i gyflawni pedwar Amcan Llesiant y Cyngor fel y manylir amdanynt yn ein Cynllun Corfforaethol.

Wrth ddatblygu'r cynllun cyflawni hwn ar gyfer 2023-24 rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd. Mae angen bod yn ddyfeisgar ac yn arloesol ac mae’r angen i herio'r hyn rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n ei wneud yn bwysicach nag erioed.

Yn ogystal â’n pedwar o amcanion llesiant, mae pwyslais arbennig yn CCB eleni ar dair her allweddol y bydd llawer o gamau gweithredu’r Cynllun yn cyfrannu atynt. Ein heriau allweddol:

  • Argyfwng Costau Byw - cefnogi ein trigolion, sefydliadau a busnesau lleol yn wyneb costau cynyddol yn enwedig o ran ynni, bwyd a thai.
  • Prosiect Sero - ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur a chyflawni’r ymrwymiadau yn ein Cynllun Her Hinsawdd.
  • Gwydnwch Sefydliadol - sicrhau y gallwn barhau i addasu i’r heriau a darparu ein gwasanaethau er gwaethaf y pwysau ariannol a'r heriau o ran y gweithlu sy'n ein hwynebu ni a llawer o'n sefydliadau partner.

Dyluniwyd yr ymgynghoriad hwn i roi crynodeb i ymatebwyr o'r camau y byddwn yn eu rhoi ar waith ac i gynnig cyfle i roi sylwadau ynghylch ai dyma'r camau cywir i gyflawni ein hamcanion llesiant a wynebu'r heriau pwysig hyn.

Gallwch ddarllen y cynllun yn llawn drwy ymweld â'n dogfennau allweddol.