Cyllideb 2023-24

Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon

Gweld y tudalen hwn yn Saesneg / View this page in English

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.

Yn dilyn cyhoeddiad y Canghellor am y gyllideb ym mis Tachwedd a chyhoeddiad setliad Llywodraeth Cymru ar 13 Rhagfyr mae'r Cyngor wedi adolygu ei bwysau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Daw cyllideb y Cyngor o dair ffynhonnell:

  • Y Dreth Gyngor a delir gan breswylwyr (31% o gyfanswm y gyllideb)
  • Ardrethi Busnes a delir gan fusnesau (15%)
  • Grantiau ariannol gan Lywodraeth Cymru (54%)

Er gwaethaf setliad ariannol gwell na'r disgwyl, mae'r Cyngor yn dal i wynebu pwysau ariannol sylweddol am y dyfodol agos, gyda diffyg tua £9 miliwn wedi’i amcangyfrif ar gyfer 2023-24.

Fel gydag Awdurdodau Lleol, busnesau ac unigolion eraill, mae amgylchedd economaidd anwadal, y cynnydd aruthrol mewn prisiau ynni a chyfraddau chwyddiant a llog cynyddol wedi effeithio’n sylweddol ar y Cyngor.

Gan ystyried yr argyfwng costau byw presennol ac ar ôl adolygu'r ymatebion i ymarfer ymgynghori yn y gyllideb y llynedd, mae’r cynigion cyllideb ddrafft wedi cael eu hysgrifennu gyda'r nod o amddiffyn ein trigolion mwyaf agored i niwed, wrth barhau i ddarparu gwasanaethau rheng flaen hanfodol.

Mae Bro Morgannwg yn ardal amrywiol a ganddi boblogaeth sy'n heneiddio a nifer cynyddol o blant ag anghenion ychwanegol. Mae'r grwpiau hyn fel arfer yn dibynnu'n fwy ar ein gwasanaethau.

Mae llawer o gamau eisoes wedi'u cymryd i wneud arbedion a chodi incwm i dalu am y gost o ddarparu nifer helaeth o wasanaethau. Ond ni fydd y camau hyn ar eu pennau eu hunain yn mynd yn ddigon pell i bontio'r bwlch ariannu y mae'r Cyngor yn ei wynebu.

Mae'r Cyngor yn ystyried y cynigion canlynol i fynd i'r afael â'i ddiffyg yn y gyllideb yn 2023-24 a hoffai gael eich barn:

  • Parhau i adolygu'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu i'w gwneud mor effeithlon â phosibl
  • Blaenoriaethu gwasanaethau sy'n amddiffyn ein trigolion mwyaf agored i niwed
  • Cynyddu’r Dreth Gyngor gan 4.9%, (byddai hyn yn cadw Bro Morgannwg islaw cyfartaledd Cymru)
  • Newidiadau i ffioedd am nifer o wasanaethau yn unol â chwyddiant
  • Cyflwyno ffioedd am wasanaethau anstatudol