Cyllid Adran 106 Sili

Rhannu Cyllid Adran 106 Sili ar Facebook Rhannu Cyllid Adran 106 Sili Ar Twitter Rhannu Cyllid Adran 106 Sili Ar LinkedIn E-bost Cyllid Adran 106 Sili dolen

Gweld y tudalen hon yn Saesneg / View this page in English

Rydym yn gofyn am eich help i ddyrannu cyllid ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol, neu gyllid 'Adran 106' fel y mae’n cael ei alw weithiau, sydd ar gael i'r gymuned yn Sili yn sgil Datblygiadau Tai diweddar yn yr ardal.

Ystyr 'Cyfleusterau Cymunedol' yw cyfleusterau (parc, adeilad neu adeiledd) neu wasanaethau o fewn Sili sy'n bodloni anghenion y gymuned leol ac sydd ar gael i'r cyhoedd, sy'n cynnwys naill ai darparu cyfleusterau newydd yn ward Sili neu wella un neu fwy o'r cyfleusterau cymunedol canlynol.

Rydym wedi derbyn y cynigion canlynol a byddem yn croesawu eich sylwadau arnynt:

  • offer campfa awyr agored
  • gwelliannau i'r llyfrgell
  • cofeb rhyfel / ardal fyfyrio
  • cyfleuster addysg / cymunedol deuol yn Ysgol Gynradd Sili
  • paneli solar ar y clwb bowlio dan do
  • gwelliannau i fannau agored presennol i'r gogledd o south road i ffurfio parc llinellol gyda llwybr ymarfer corff, planhigion a seddi

Pobl a Chymuned

Mae’r gymuned leol yn cael ei chynnwys wrth ddatblygu cynigion. Mae anghenion, dyheadau, iechyd a lles pawb yn cael eu hystyried o’r cychwyn cyntaf. Mae cynigion yn cael eu llunio i helpu i fodloni'r anghenion hyn yn ogystal â chreu, integreiddio, amddiffyn a/neu wella ymdeimlad o gymuned a hyrwyddo cydraddoldeb.

Lleoliad

Mae lleoedd yn tyfu ac yn datblygu mewn ffordd sy'n defnyddio tir yn effeithlon, sy’n gwella ac yn ychwanegu at yr hyn sydd eisoes yn bodoli, ac sydd wedi’i chysylltu’n dda. Y bwriad yw y bydd lleoliad tai, cyflogaeth a hamdden a chyfleusterau eraill yn helpu i leihau'r angen i deithio.

Symudiad

Mae cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn flaenoriaeth, gan gynnig dewis o ddulliau teithio a lleihau dibyniaeth ar gerbydau preifat. Mae llwybrau teithio llesol sydd wedi'u dylunio'n dda ac sy’n ddiogel yn cysylltu â'r rhwydwaith teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus ehangach ac mae gorsafoedd a safleoedd trafnidiaeth gyhoeddus wedi'u hintegreiddio'n gadarnhaol.

Defnyddiau cymysg

Mae gan leoedd amrywiaeth o ddibenion sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygu cymunedol, twf busnesau lleol a mynediad at swyddi, gwasanaethau a chyfleusterau trwy gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae gwaith datblygu a chymysgedd o ddefnyddiau a deiliadaethau yn helpu i gynnal cymuned amrywiol a thir cyhoeddus bywiog.

Tir Cyhoeddus

Mae strydoedd a mannau cyhoeddus wedi'u diffinio'n dda, yn groesawgar, yn ddiogel ac yn gynhwysol gyda hunaniaeth benodol. Maent wedi'u dylunio i fod yn gadarn ac yn addasadwy gydag ardaloedd wedi’u tirlunio, seilwaith gwyrdd a systemau draenio cynaliadwy wedi'u hintegreiddio'n dda. Maent wedi'u cysylltu'n dda â lleoedd sydd eisoes yn bodoli ac yn hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol ac amrywiaeth o weithgareddau i bawb.

Hunaniaeth

Mae rhinweddau unigryw cadarnhaol lleoedd sydd eisoes yn bodoli yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu. Mae nodweddion a chyfleoedd unigryw lleoliad gan gynnwys treftadaeth, diwylliant, iaith a phriodoleddau adeiledig a ffisegol naturiol, yn cael eu nodi ac ymatebir iddynt.

  • AR GAU: Mae'r arolwg hwn wedi dod i ben.
    Cwblhau'r arolwg
    Rhannu Arolwg Cyllid Adran 106 Sili ar Facebook Rhannu Arolwg Cyllid Adran 106 Sili Ar Twitter Rhannu Arolwg Cyllid Adran 106 Sili Ar LinkedIn E-bost Arolwg Cyllid Adran 106 Sili dolen