Creu Lleoedd Y Bont-Faen

Rhannu Creu Lleoedd Y Bont-Faen ar Facebook Rhannu Creu Lleoedd Y Bont-Faen Ar Twitter Rhannu Creu Lleoedd Y Bont-Faen Ar LinkedIn E-bost Creu Lleoedd Y Bont-Faen dolen

Gweld y tudalen hon yn Saesneg / View this page in English

Ynglyn a chreu lleoedd

Ym mis Mai 2023, daeth Cyngor Bro Morgannwg yn llofnodwr Siarter Creu Lleoedd Cymru ac mae bellach yn gymwys i wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru i baratoi Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer pob tref yn y Fro: Y Barri, Penarth, y Bont-faen, a Llanilltud Fawr. Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd cyllid grant ar gyfer trefi yn y dyfodol yn ddibynnol ar Gynllun Creu Lleoedd mabwysiedig.

Dylai twf ac adfywiad trefi a dinasoedd gyfrannu'n gadarnhaol tuag at adeiladu lleoedd cynaliadwy sy'n cefnogi bywydau actif ac iach, gyda chymdogaethau trefol sy’n gywasgedig a cherddadwy, wedi'u trefnu o amgylch canolfannau defnydd cymysg, trafnidiaeth gyhoeddus ac wedi'u hintegreiddio â seilwaith gwyrdd. Mae creu lleoedd yn ymwneud â llawer mwy na gwasanaeth cynllunio defnydd tir y Cyngor yn unig, mae creu lleoedd yn ymwneud â sawl gwasanaeth ar draws ehangder llywodraeth leol sy'n cyfrannu at greu a rheoli lleoedd.

Gall lleoedd unigol fod ar sawl ffurf, a bydd dehongli'r hyn sy'n gwneud lle da yn amrywio. Bydd gan bob lle ei nodweddion, ei hanes a'i hunaniaeth unigryw ei hun, yn seiliedig ar y rhyngweithio parhaus rhwng pobl a'r dirwedd a'r treflun. Mae'r 'ymdeimlad o le' hwn yn amrywio, o gefn gwlad gwledig sy'n rhoi sylfaen economaidd ac amgylcheddol i amaethyddiaeth a thwristiaeth ffynnu, i ardaloedd trefol sy'n esblygu'n barhaus ac yn cynnig y ffocws ar gyfer datblygiadau cymdeithasol ac economaidd mawr.

Mae gwerth cynhenid lle i bobl neu gymunedau yn arbennig o bwysig, a allai fod oherwydd rhesymau esthetig, diwylliannol, ysbrydol neu hanesyddol. Mae creu lleoedd cynaliadwy yn broses gynhwysol, sy'n cynnwys pawb sydd â diddordeb proffesiynol neu bersonol yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu cynlluniau, gwneud penderfyniadau a chyflwyno datblygiadau sy'n cyfrannu at greu a gwella lleoedd cynaliadwy.

Beth allwch chi ei wneud

'Mae creu lleoedd yn golygu cydweithio ar draws sectorau a disgyblaethau i ystyried yn gynhwysfawr ddatblygiad lleoedd unigryw a bywiog yn y dyfodol'

Pethau y gallwch eu gwneud

Cyd-ddylunio lleoedd gyda'r gymuned, rhanddeiliaid lleol a'ch cydweithwyr yn y cyngor
Helpu lleoedd i dyfu mewn ffordd sy'n gwella'r lle presennol i greu cymunedau cynaliadwy sydd wedi'u cysylltu'n dda
Blaenoriaethu cyfleoedd i gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynd o le i le
Ystyried ystod gymysg o adnoddau cymdeithasol ac economaidd ym mhob lle, gan greu gwasanaethau a chyfleusterau gwydn a pherthnasol
Datblygu mannau croesawgar, diogel a chynhwysol sy'n caniatáu rhyngweithio cymdeithasol da
Dathlu hunaniaeth a rhinweddau unigryw lle fel ei ddiwylliant a'i dreftadaeth a'i amgylchedd adeiledig a naturiol

Egwyddorion Creu Lleoedd

Datblygwyd Siarter Creu Lleoedd Cymru ac mae'n cynnwys chwe egwyddor creu lleoedd:

Pobl a Chymuned - Mae’r gymuned leol yn cael ei chynnwys wrth ddatblygu cynigion. Mae anghenion, dyheadau, iechyd a lles pawb yn cael eu hystyried o’r cychwyn cyntaf. Mae cynigion yn cael eu llunio i helpu i fodloni'r anghenion hyn yn ogystal â chreu, integreiddio, amddiffyn a/neu wella ymdeimlad o gymuned a hyrwyddo cydraddoldeb.

Lleoliad - Mae lleoedd yn tyfu ac yn datblygu mewn ffordd sy'n defnyddio tir yn effeithlon, sy’n gwella ac yn ychwanegu at yr hyn sydd eisoes yn bodoli, ac sydd wedi’i chysylltu’n dda. Y bwriad yw y bydd lleoliad tai, cyflogaeth a hamdden a chyfleusterau eraill yn helpu i leihau'r angen i deithio.

Symud - Mae cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn flaenoriaeth, gan gynnig dewis o ddulliau teithio a lleihau dibyniaeth ar gerbydau preifat. Mae llwybrau teithio llesol sydd wedi'u dylunio'n dda ac sy’n ddiogel yn cysylltu â'r rhwydwaith teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus ehangach ac mae gorsafoedd a safleoedd trafnidiaeth gyhoeddus wedi'u hintegreiddio'n gadarnhaol.

Cymysgedd o Ddefynddiau - Mae gan leoedd amrywiaeth o ddibenion sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygu cymunedol, twf busnesau lleol a mynediad at swyddi, gwasanaethau a chyfleusterau trwy gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae gwaith datblygu a chymysgedd o ddefnyddiau a deiliadaethau yn helpu i gynnal cymuned amrywiol a thir cyhoeddus bywiog.

Tir cyhoeddus - Mae strydoedd a mannau cyhoeddus wedi'u diffinio'n dda, yn groesawgar, yn ddiogel ac yn gynhwysol gyda hunaniaeth benodol. Maent wedi'u dylunio i fod yn gadarn ac yn addasadwy gydag ardaloedd wedi’u tirlunio, seilwaith gwyrdd a systemau draenio cynaliadwy wedi'u hintegreiddio'n dda. Maent wedi'u cysylltu'n dda â lleoedd sydd eisoes yn bodoli ac yn hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol ac amrywiaeth o weithgareddau i bawb.

Hunaniaeth - Mae rhinweddau unigryw cadarnhaol lleoedd sydd eisoes yn bodoli yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu. Mae nodweddion a chyfleoedd unigryw lleoliad gan gynnwys treftadaeth, diwylliant, iaith a phriodoleddau adeiledig a ffisegol naturiol, yn cael eu nodi ac ymatebir iddynt.

Mae creu lleoedd yn allweddol i sicrhau bod ein cymunedau'n ffynnu yn y cyd-destun economaidd anodd presennol, ar ôl Covid ac effeithiau argyfwng parhaus costau byw, a sicrhau bod gan ein trefi amgylcheddau adeiledig a naturiol wedi'u cynllunio'n dda a'u cynnal yn dda. Felly, mae dod yn llofnodwr y Siarter Creu Lleoedd yn rhoi cyfle i'r Cyngor gadarnhau ei ymrwymiad i ddarparu lleoedd o safon a chydnabod y rôl allweddol y mae hyn yn ei chwarae wrth wella iechyd a lles ei gymunedau a'i breswylwyr ar gyfer y dyfodol hirdymor.

Mae creu lleoedd yn ceisio cryfhau'r cysylltiad rhwng pobl a'r lleoedd y maent yn eu rhannu ac mae angen eich help arnom i gyflawni hyn. Dilynwch y dolenni wrth ymyl y dudalen hon i ddarganfod mwy a chyfrannu at greu lleoedd yn eich tref.