Cynllun Creu Lleoedd Barry wedi'i lansio Mawrth 2026!

Lansiwyd Cynllun Creu Lleoedd y Barri ym mis Mawrth 2026!

Mae creu lleoedd yn ymwneud â gweithio gyda'n gilydd i wella'r lleoedd lle rydyn ni'n byw, yn gweithio ac yn treulio amser ynddynt. Mae'n cynnwys gwrando ar bobl leol a defnyddio syniadau newydd i wneud trefi a chymdogaethau yn fwy croesawgar, bywiog a defnyddiol i bawb.

Dyma'r pedwerydd cynllun creu lleoedd i'w ddatblygu mewn partneriaeth â Chynghorau Tref yn y Fro a bydd yn helpu i ddatgloi cyfleoedd cyllido yn y dyfodol ar gyfer canol y dref a thu hwnt.

Dechreuodd y gwaith i ddatblygu Cynllun Creu Lleoedd y Barri yn 2024, ac mae wedi'i ffurfio mewn cydweithrediad â thrigolion, busnesau lleol, sefydliadau ac Aelodau etholedig, a rannodd eu syniadau a'u blaenoriaethau eu hunain ar gyfer dyfodol y dref.

Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar welliannau yng nghanol y dref, ond hefyd ar gysylltu'r dref ac adfywio Ynys y Barri.

Nid yw'r syniadau yn y ddogfen yn hollol bendant a bwriedir iddi fod yn ddogfen fyw a fydd yn parhau i esblygu wrth i anghenion cymunedol newid.

Nid yw er mwyn i'r ddau Gyngor yn unig gyflawni, a'r gobaith yw y bydd pobl leol yn helpu i gyflawni a llunio'r cynllun a'r prosiectau wrth iddynt esblygu rhaglen trefi.


Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Aelod Cabinet dros Fannau Cynaliadwy: "Rydw i mor falch ein bod wedi gallu gweithio gyda'n gilydd ar y cynllun hwn a'i fod wedi cael ei lywio gan y bobl sy'n byw ac yn gweithio yma.
"Blaenoriaeth allweddol yn y cynllun yw cryfhau canol y dref, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gyrchfan fywiog a chroesawgar i drigolion, busnesau ac ymwelwyr.
"Mae camau diweddar, fel y Cyngor yn caffael hen adeilad Wilko ar Heol Holltwn, yn dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi yn y Barri ac archwilio cyfleoedd newydd i ddod â gweithgarwch a bywyd yn ôl i galon y dref."


Dywedodd Rachel Honey-Jones, Prif Swyddog Cyngor Tref y Barri: "Mae un thema allweddol yn y Cynllun yn edrych ar ail-ffocysu canol y dref, gan gynnwys buddsoddi mewn cyfleusterau diwylliannol a chymunedol, gwella mannau cyhoeddus a’r treflun, cymorth i fanwerthu lleol ar holl strydoedd siopa'r dref, a chyfleoedd ar gyfer datblygiad newydd.

"Mae'r cynllun yn cyd-fynd yn agos â'n dyheadau fel Cyngor Tref i hyrwyddo treftadaeth y Barri a dod o hyd i le lle gall pob math o hanes ddod at ei gilydd o dan yr un to.

"Mae darpariaeth chwaraeon ar draws y dref hefyd wedi’i chyfleu’n gryf ac mae hyn bellach yn rhoi llwyfan i ni weithio gyda'r gymuned chwaraeon i gymryd golwg gyfannol o'r hyn sydd ei angen mewn perthynas â hynny."


Mae gan y rhan fwyaf o drefi ledled Cymru Gynllun Creu Lleoedd bellach, neu wrthi’n datblygu un, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru

Dyma gopi o Gynllun Creu Lleoedd y Barri

I gael rhagor o wybodaeth am greu lleoedd mewn trefi eraill ym Mro Morgannwg, cymerwch olwg yma.


Rhannu Cynllun Creu Lleoedd Barry wedi'i lansio Mawrth 2026! ar Facebook Rhannu Cynllun Creu Lleoedd Barry wedi'i lansio Mawrth 2026! Ar Twitter Rhannu Cynllun Creu Lleoedd Barry wedi'i lansio Mawrth 2026! Ar LinkedIn E-bost Cynllun Creu Lleoedd Barry wedi'i lansio Mawrth 2026! dolen
<span class="translation_missing" title="translation missing: cy.projects.blog_posts.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>