Gweld y tudalen hwn yn Saesneg / View this page in English
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.
Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried yr ymatebion a'r cynigion cyllideb derfynol ar 29 Chwefror cyn i'r gyllideb cael ei gytuno mewn cyfarfod o'r cyngor llawn ar 6 Mawrth.
Cefndir
Yn dilyn datganiad hydref y Canghellor ym mis Tachwedd a chyhoeddi setliad dros dro Llywodraeth Cymru ar 19 Rhagfyr, mae'r Cyngor wedi adolygu ei bwysau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Fel llawer o'r sector cyhoeddus mae'r Cyngor yn wynebu pwysau eithriadol ar ei gyllideb felly bydd y flwyddyn i ddod yn unParhau i ddarllen
Gweld y tudalen hwn yn Saesneg / View this page in English
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.
Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried yr ymatebion a'r cynigion cyllideb derfynol ar 29 Chwefror cyn i'r gyllideb cael ei gytuno mewn cyfarfod o'r cyngor llawn ar 6 Mawrth.
Cefndir
Yn dilyn datganiad hydref y Canghellor ym mis Tachwedd a chyhoeddi setliad dros dro Llywodraeth Cymru ar 19 Rhagfyr, mae'r Cyngor wedi adolygu ei bwysau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Fel llawer o'r sector cyhoeddus mae'r Cyngor yn wynebu pwysau eithriadol ar ei gyllideb felly bydd y flwyddyn i ddod yn un heriol eto.
Rhagwelir y bydd y Cyngor yn derbyn £208.901m mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru yn 2024/25. Mae hyn yn gynnydd o 3.1%. Fodd bynnag, mae’n dal i fod ymhell islaw'r gyfradd chwyddiant bresennol, felly mewn gwirionedd mae’n doriad mewn termau real.
Yn ogystal â derbyn cyllid yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, mae'r Cyngor hefyd yn codi arian drwy'r Dreth Gyngor ac yn derbyn cyllid ychwanegol drwy gyfran o'r ardrethi busnes a gesglir ledled Cymru.
Er bod lefel y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf i’w phenderfynu yng nghyfarfod y Cyngor llawn ym mis Mawrth, y rhagolwg cyfredol yw y bydd bwlch o £7.8m yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf gyda'r setliad.
Mae'r ffeithlun canlynol wedi'i gynllunio i esbonio o le y daw cyllideb y Cyngor a sut y cafodd ei dyrannu ar draws gwasanaethau yn y flwyddyn ariannol hon.
Mae ymgynghoriad ar gynigion drafft y gyllideb ar gyfer 2024/25 bellach ar y gweill.
Gall preswylwyr ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses o bennu'r gyllideb ar gyfer 2024/25 a chynigion drwy ddarllen adroddiad y Cabinet, y ceir dolen iddo ar y dudalen hon, neu ddarllen Cwestiynau Cyffredin y gyllideb.
Cwblhewch yr arolwg isod i ddweud eich dweud cyn 15 Chwefror.
Mae copïau papur o'r arolwg ar gael yn nerbynfa’r Swyddfeydd Dinesig.
Fel arall, ffoniwch 01446 700111 neu e-bostiwch consultation@valeofglamorgan.gov.uk i rannu eich barn.