Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Rhannu Creu Lleoedd Y Bont-Faen ar FacebookRhannu Creu Lleoedd Y Bont-Faen Ar TwitterRhannu Creu Lleoedd Y Bont-Faen Ar LinkedInE-bost Creu Lleoedd Y Bont-Faen dolen
Mae'r tîm Cymunedau Creadigol yn arwain y gweithgaredd Creu Lleoedd ar ran Cyngor Bro Morgannwg. Dechreuodd cyfarfodydd rhwng y tîm Cymunedau Creadigol a Chyngor Tref Y Bont-faen y llynedd.
Rydym wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd i ddatblygu ein dull ar y cyd o greu lleoedd yn y Bont-faen. Cytunwyd ar ba ddigwyddiadau cymunedol yr oedd angen i ni eu mynychu, a chytunwyd ar strategaeth ymgysylltu i sicrhau y byddai cymaint o drigolion y Bont-faen â phosibl yn cael cyfle i rannu eu barn am sut beth yw byw yn y Bont-faen a'u syniadau ynghylch pa newidiadau y gellid eu gwneud i wneud y Bont-faen yn dref gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Mae swyddogion ac Aelodau o'r Cyngor Tref wedi cyfarfod â grwpiau cymunedol ar draws y dref ac mae Swyddogion y Cyngor Bro a Thref hefyd wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau galw heibio ar gyfer trigolion lleol, e.e. yn y ganolfan siopa ac mewn lleoliadau fel y Ganolfan Hamdden.
Ym mis Tachwedd rhannwyd y Cynllun Creu Lleoedd Drafft gyda thrigolion lleol drwy arddangosfa o baneli gwybodaeth yn amlinellu pwrpas y cynllun, gweledigaeth ac amcanion y Bont-faen a'r meysydd cyfleoedd lle cynigir prosiectau neu ymyriadau. Gellir lawrlwytho pdf o'r paneli hyn o ochr dde'r dudalen hon. Daeth llawer o bobl i weld yr arddangosfa a gynhaliwyd am un diwrnod yn Neuadd y Dref ac yna am chwe diwrnod yn yr Hen Neuadd. Rydym wedi casglu'r holl adborth a dderbyniwyd yn ystod y dyddiau hynny, yn ogystal â'r arolwg ar-lein a oedd ar-lein yma tan Dachwedd 25ain.
Y Newyddion Diweddaraf
Diolch i bawb a roddodd adborth ar y cynlluniau drafft. Byddwn nawr yn paratoi dogfen derfynol ac yn diweddaru'r dudalen hon pan fydd yn barod.